
Colli Etta: ‘Dyla fo ddim wedi digwydd’
Colli Etta: ‘Dyla fo ddim wedi digwydd’
“Doedd o ddim i fod i ddigwydd.”
Dyna eiriau rhieni o Ben Llŷn a gollodd eu merch yn bedwar diwrnod oed yn dilyn "methiant difrifol i ddarparu gofal meddygol sylfaenol" gan Ysbyty Gwynedd.
Bu farw Etta Lili Stockwell-Parry ym mis Gorffennaf 2023.
Disgrifiodd y crwner yr achos fel "un o'r achosion mwyaf gofidus" y bu'n rhaid iddi ddelio ag ef erioed, a dywedodd fod esgeulustod gan y bwrdd iechyd wedi cyfrannu at farwolaeth Etta.
Yn fuan ar ôl priodi fe wnaeth Laura feichiogi gyda’i gŵr Tristan - cyfnod cyffrous i’r ddau.
“Oedd bob dim yn iawn drwy’r beichiogrwydd, oedda ni’n edrych ymlaen i ddod yn rieni am y tro cyntaf,” meddai Laura wrth raglen Y Byd ar Bedwar.
Cafodd Etta ei geni mewn cyflwr gwael yn Ysbyty Gwynedd ar y 3 Orffennaf 2023.
“O’n i jyst yn teimlo fel mod i’n sbio ar fywyd rhywun arall. Oeddan nhw’n deud wrthan ni drwy’r labour i gyd ‘babi hapus, babi hapus’ so doedd gena ni ddim rheswm i boeni, dim rheswm i ddisgwyl iddi gael ei geni yn y cyflwr nath hi,” meddai Laura.
“Oedd y doctor yn cael Etta allan, ac oedd un o’r nyrsys yn dweud ‘cal dy ffôn allan yn barod i dynnu lluniau. Ond dwi’n cofio Etta’n dod ac oedd ei lliw hi’n llwyd, doedd hi ddim yn crio. Dwi jyst yn cofio fo’n teimlo fel chaos.”
Cafodd Etta ei chludo i'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod ond oherwydd difrifoldeb ei chyflwr, cafodd ei throsglwyddo yn ddiweddarach y bore hwnnw i Ysbyty Arrowe Park am driniaeth arbenigol.

‘Nos da’
Roedd Etta wedi dioddef niwed difrifol i'r ymennydd oherwydd diffyg ocsigen. Ar y 7 Orffennaf 2023 yn bedwar diwrnod oed diffoddwyd y peiriant cynnal bywyd a bu farw.
Dywedodd Tristan: “Oedd o’n gyfnod mor anodd. Gafon ni lawer o sgyrsiau efo doctoriaid a fel teulu. Yn anffodus, mi wnaethon ni’r penderfyniad i beidio cario mlaen. Oedda chdi ddim isio hi syffro ddim mwy. Natho ni ddeud nos da.
“Does na ddim byd yn prepario chdi i wneud penderfyniad fel yna, a wedyn gorfod meddwl am ddod adra efo’r set car yn wag. Oedd y siwrna’n anodd.”
Roedd bywydau’r ddau ar chwâl.
Dywedodd Laura: “Oni’n beio fy hun. Os fysa na rwbath ‘swn i di gallu neud yn wahanol?
"Doedd gena ni ddim atebion, oedd ‘na gymaint o gwestiynau yn ein pennau ni. Gadael hi yna oedd un o’r pethau gwaethaf.”
Tri mis yn ddiweddarach fe wnaeth Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr rannu adroddiad ymchwiliad i ddigwyddiad difrifol gyda’r teulu.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod nifer o fethiannau wedi digwydd yn ystod gofal Laura ac Etta drwy gydol y beichiogrwydd a'r enedigaeth. Un o’r methiannau mwyaf oedd bod y bydwragedd wedi methu sylwi nad oedd Etta’n tyfu yn y groth - a hynny ar dri achlysur gwahanol.
Daeth i'r amlwg bod gwallau wedi'u gwneud wrth fonitro curiad calon Etta cyn ei geni hefyd, gyda churiad y fam yn cael ei gofnodi yn hytrach na'r babi.
“Nath hynny ddychryn fi rili achos o’dd o am 43 funud doedd… ma hwna’n amser hir dydi. Mae’n rhywbeth eitha basic,” meddai Laura.
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod oedi sylweddol wedi bod cyn cofnodi tymheredd Etta wedi iddi gael ei geni, ac y dyle’r doctoriaid fod wedi defnyddio dulliau erill i helpu Etta anadlu ar y pryd.
Fis Mai eleni daeth y Crwner i gasgliad bod sawl methiant difrifol i roi gofal meddygol sylfaenol wedi bod cyn ac yn ystod genedigaeth Etta yn Ysbyty Gwynedd.
“Dyla hi fod yma efo ni, mae o yn rili anodd,” meddai Laura.
“Dwi’n teimlo bod y cwest di helpu ni brosesu mewn ffordd bod y crwner ei hun wedi adnabod bod na neglect, failing mewn basic care, dwi meddwl dyna sy’n neud hyn mor anodd i ni, ma’r ffaith mai petha bach cyffredin oedd o.”

Mae Charlene François yn fydwraig gyda bron i 40 mlynedd o brofiad, mae hi hefyd yn dyst arbenigol ac wedi rhoi ei barn mewn achosion ledled y byd gan gynnwys Cymru.
Dywedodd Ms François y byddai marwolaeth Etta wedi gallu cael ei osgoi os byddai Laura wedi ei throsglwyddo i'r ward esgor i gael ei monitro'n barhaus.
“Dyw e ddim yn dderbyniol," meddai.
"Doedden nhw ddim yn gwneud y mesuriadau'n gywir, mae'n ofal gwael. Mae safon y gofal yn isel iawn ac mae’n dangos bod diffyg hyfforddiant ymysg staff.”
Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Hoffem fynegi ein cydymdeimlad dwysaf at Mr a Mrs Stockwell-Parry yn dilyn marwolaeth dorcalonnus Etta.
“Ers y digwyddiad trasig hwn ym mis Gorffennaf 2023, rydym wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r gofal a ddarparwyd ac wedi cymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
"Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o’r profiad hwn ac wedi cyflwyno ystod o fesurau i wella ein hyfforddiant a’n goruchwyliaeth glinigol, gan sicrhau’r gofal gorau posibl i famau a babanod.”
'Am byth'
Y llynedd fe wnaeth Tristan a Laura groesawu eu mab Esra i’r byd - ond penderfynodd y ddau y byddai Laura yn derbyn gofal ac yn geni Esra yn ysbyty Arrowe Park, yn hytrach nag Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd Laura a Tristan nad ydyn nhw am weld yr un mam a thad arall yn gorfod wynebu y golled mae nhw wedi ei brofi.
“Doedd o ddim i fod i ddigwydd a da ni ddim isio i neb fynd drwy be da ni di gorfod mynd drwy. Mae pobl yn deud bod o’n dod yn haws efo amser, ond dydy o ddim.
“Hi ydy hogan bach ni. Hi ‘na’th ‘neud ni’n rhieni. Fydd hi’n hogan bach i ni am byth.”
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, ‘Etta: Merch fach, methiant mawr’ nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC IPlayer.