Hybu Cig Cymru yn cael ei feirniadu'n hallt gan bwyllgor y Senedd

Hybu Cig Cymru

Mae sefydliad Hybu Cig Cymru wedi cael ei feirniadu'n hallt mewn adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd, wrth i'r aelodau nodi bod angen newidiadau mawr ym maes hyrwyddo cig Cymru, a rheolaeth newydd o bosibl.

Cafodd y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gais i lunio'r ddogfen wedi cyfnod cythryblus oddi mewn i Hybu Cig Cymru y llynedd.

Roedd heriau ar lefel arweinyddiaeth y sefydliad sy'n datblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymreig. 

Cafodd HCC ei labelu yn "siop siafins eilradd" gan gynrychiolwyr y diwydiant cig bryd hynny.

Yn ôl Cymdeithas Annibynnol Cyflenwyr Cig, roedd angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i wneud yn siŵr bod Hybu Cig Cymru yn gwneud eu gwaith yn iawn.

Datgelodd rhaglen Newyddion S4C ym mis Chwefror 2024 bod chwe aelod o staff y corff wedi cwyno, ar wahân, eu bod nhw'n cael eu bwlio.

Cwmni preifat yw HCC, ond Llywodraeth Cymru sy'n berchen arno ac yn ei oruchwylio. 

Mae’n derbyn rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru ond daw ei incwm craidd o’r Ardoll Cig Coch, (Levy) sy’n daladwy gan ffermwyr a phroseswyr ar bob anifail sy’n mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.

Yn ei adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi fore Mercher, mae'r pwyllgor ym Mae Caerdydd yn galw am gamau gweithredu pendant. 

Image
José Peralta
José Peralta, Prif Weithredwr newydd Hybu Cig Cymru

'Dychwelyd rheolaeth' 

Maen nhw'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad llawn o lywodraethiant a pherchnogaeth HCC, ac ystyried y posibilrwydd o ddychwelyd rheolaeth i ddiwydiant cig Cymru.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch "cynaliadwyedd ariannol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a'r angen am dargedau cliriach."

Mae Hybu Cig Cymru wedi dweud eu bod yn croesawu argymhellion a chasgliadau pwyllgor y Senedd.

Maent yn nodi fod yr adroddiad yn dod "ar amser amserol i’r diwydiant" wrth iddyn nhw gwblhau cynllun gweithredu i’r dyfodol ar gyfer 2026 a thu hwnt.

Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd: "Ar ôl cyfnod anodd o aflonyddwch mewnol a cholli hyder, mae hon yn foment dyngedfennol i ailadeiladu ymddiriedaeth, cryfhau llywodraethu, a sicrhau bod y sefydliad yn wirioneddol atebol.

"Gallai cynrychiolaeth gryfach o’r diwydiant ar y lefelau uchaf o fewn Hybu Cig Cymru fod wedi helpu i atal y cythrwfl diweddar yn y sefydliad a meithrin gwell arweinyddiaeth. Er mwyn atal problemau tebyg yn y dyfodol, mae'n hanfodol i ni sicrhau bod llais y diwydiant yn cael ei glywed ar bob lefel.

"Mae hwn hefyd yn gyfnod heriol i ffermwyr, gyda llawer o ansicrwydd ynghylch trethi a chymorth ariannol. Dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed bod Hybu Cig Cymru yn canolbwyntio ar weithio'n galed ar ran ffermwyr, a'r diwydiant cig ehangach, i hyrwyddo ein cig coch premiwm.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gamu i fyny a gweithredu ar yr argymhellion hyn i sicrhau dyfodol ein sector cig coch."

Argymhellion 

Mae'r pwyllgor yn argymell:

  • Adolygu strwythur HCC, gan gynnwys y posibilrwydd o ddychwelyd perchnogaeth i'r rhai sy'n talu ardoll a chynrychiolaeth fwy o'r diwydiant ar y bwrdd.
  • Cyflwyno targedau mesuradwy ac adroddiadau tryloyw i sicrhau gwerth am arian.
  • Gwella'r elfen weledol a chyfathrebu â ffermwyr, proseswyr ac arwerthwyr.                                                                                                                                                        

Wrth ymateb i'r argymhellion hynny, nododd Hybu Cig Cymru bod angen cylid ychwanegol ar y sefydliad er mwyn cyflawni'r holl amcanion.

José Peralta yw Prif Weithredwr HCC, wedi iddo ddechrau yn ei swydd fis Ionawr 2025. Fe olynodd Gwyn Howells a adawodd ei swydd o dan gwmwl fis Mehefin y llynedd. 

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Mr Peralta: "Mae nifer o’r argymhellion yn tynnu sylw at yr angen i edrych ymhellach ar gylch gwaith eang HCC a ffyrdd o’i gyllido ochr yn ochr â’r ardoll cig coch sy’n bodoli eisoes. 

"Fel y nodir yn yr argymhellion, nid yw incwm yr ardoll yn unig yn ddigon ar gyfer cylch a llwyth gwaith presennol y sefydliad ynghyd â thynnu sylw at y ffaith ei bod yn amlwg bod angen cyllid ychwanegol er mwyn i HCC gyflawni ei fandad sylweddol.    

 "Mae HCC yn cydnabod hyn ac wedi bod yn galw am gynyddu’r cyllid i fedru cyflawni’n effeithiol ar ran talwyr ardoll ar ei gylch gwaith eang ac yn parhau i drafod opsiynau cyllido gyda Llywodraeth Cymru."

Ychwanegodd: "Fel sefydliad ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, mae’r argymhelliad ar drefniadau llywodraethiant yn gwestiwn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol."

"O ran yr argymhelliad i gynyddu ymgysylltiad, bydd HCC yn parhau a’i agwedd rhagweithiol ac eang i ymgysylltu gyda thalwyr ardoll. Mae HCC wedi cynyddu ei ymgysylltiad yn helaeth yn 2025 ac yn cydnabod bod mwy y gellir ei wneud o hyd."

Mae'r Pwyllgor yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ei hargymhellion i adfywio HCC, gan ddadlau bod angen gwneud hynny er mwyn bod mewn gwell sefyllfa i hyrwyddo cig coch Cymru a chefnogi'r sector ffermio yn ystod "cyfnod heriol." 

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad cynhwysfawr ac fe fyddwn yn ymateb i'r argymhellion maes o law." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.