Cadarnhau dyddiad is-etholiad yng Nghaerffili wedi marwolaeth Hefin David

Hefin David.jpg

Mae’r dyddiad ar gyfer is-etholiad sedd y cyn Aelod o Senedd Cymru, Hefin David, wedi’i gadarnhau.

Mewn datganiad ddydd Mercher, cadarnhaodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, y bydd is-etholiad sedd Caerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref.

Dywedodd y Llywydd ei bod wedi ysgrifennu at y Swyddog Canlyniadau yn gofyn iddo drefnu i’r bleidlais gael ei chynnal ar y dyddiad hwnnw.

Daeth y sedd yn wag ar 12 Awst 2025, ac roedd yn ofynnol cynnal isetholiad o fewn tri mis o hynny.

Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau mai Lindsay Whittle fydd eu hymgeisydd nhw. Nid yw'r ymgeiswyr eraill wedi eu cadarnhau eto.

Teyrngedau

Bu farw Hefin David, oedd wedi cynrychioli Caerffili ers 2016, ar 12 Awst yn 47 oed, ddiwrnod cyn ei benblwydd yn 48 oed.

Clywodd cwest fis diwethaf ei fod wedi marw o “achosion annaturiol.” 

Fe wnaeth y crwner osod dyddiad arfaethedig o 7 Ebrill ar gyfer y cwest llawn.

Cafodd angladd y cyn aelod Llafur ei gynnal yng Ngelligaer, yn Sir Caerffili ar 1 Medi. 

Roedd y prif weinidogion Eluned Morgan a Syr Keir Starmer ymhlith y rhai a roddodd deyrnged iddo wedi ei farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.