Angela Rayner heb dalu digon o dreth ac wedi ystyried ymddiswyddo
Mae Dirprwy Brif Weinidog y DU, Angela Rayner wedi cyfeirio ei hun at ymgynghorydd annibynnol ar safonau gweinidogion ar ôl cyfaddef iddi beidio â thalu digon o dreth stamp.
Mae’n dweud iddi hefyd ystyried rhoi’r gorau i’w swydd oherwydd y sefyllfa sydd wedi codi.
Yn ôl Ms Rayner, derbyniodd gyngor treth anghywir, ac fe drafododd gyda’i theulu a ddylai hi gamu o’r neilltu.
Mae Angela Rayner hefyd yn Ysgrifennydd Tai Llywodraeth San Steffan, ac mae hi wedi bod o dan bwysau cynyddol oherwydd materion yn ymwneud â’i threth, wedi adroddiadau yn y cyfryngau am ei fflat yn Hove, de Lloegr.
Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth hi arbed £40,000 mewn treth stamp wrth brynu'r fflat, oherwydd iddi dynnu ei henw oddi ar weithredoedd cartref teuluol yn ei hetholaeth yn Ashton-under-Lyne ger Manceinion. Yn dechnegol, mae hynny’n golygu ei bod hi’n berchen ar y fflat yn Hove yn unig.
Mewn cyfweliad â Sky, dywedodd Ms Rayner: “Rydw i wedi bod mewn sioc, oherwydd, roeddwn i’n meddwl mod i wedi gwneud popeth yn gywir, ac fe wnes i ddibynnu ar y cyngor a dderbyniais. Rydw i’n teimlo’n ofnadwy am y peth gan fy mod i wastad wedi glynu at y rheolau.”
Mewn datganiad swmpus ddydd Mercher, dywedodd fod y "trefniant byw yn un cymhleth" gan bod ei chartref cyntaf wedi ei werthu i ymddiriedolaeth ar ôl ei hysgariad, er mwyn darparu sefydlogrwydd ar gyfer ei mab anabl sydd yn ei arddegau.
Eglurodd bod y mater wedi ei gadw’n gyfrinachol er mwyn gwarchod ei mab, ond iddi wneud cais i'r llys ddoe i godi'r gwaharddiad cyfrinachedd, er mwyn bod yn "dryloyw."
“Mae e’n fregus, mae ganddo gyflwr gydol oes sydd wedi newid ei fywyd, a dydw i ddim eisiau iddo fe, nac unrhyw elfen o’i fywyd fod yn destun y lefel hwn o graffu," meddai.