
Rhieni ym Machynlleth yn flin oherwydd diffyg bws ysgol i gludo’u plant i Aberystwyth
Mae rhieni yn ardal Machynlleth wedi eu cynddeiriogi ar ôl cael gwybod ddiwrnod cyn dechrau’r tymor ysgol newydd na fydd cwmni yn cynnig bws ysgol i gludo eu plant i Aberystwyth.
Cyhoeddodd cwmni bysiau Lloyds Coaches ar y cyfryngau cymdeithasol toc cyn 17.00 ddydd Mawrth na fyddai eu gwasanaeth bws i ysgolion Penweddig a Phenglais yn rhedeg o Fachynlleth, er bod eu depot yno.
Roedden nhw’n cynghori bod y plant yn dal gwasanaeth T2 TrawsCymru ben bore dydd Mercher yn lle.
Mae cwmni Lloyds wedi egluro ar gyfryngau cymdeithasol mai cynnydd yn nifer y myfyrwyr sydd angen y gwasanaethau bws rhwng Machynlleth ac Aberystwyth sydd i gyfrif am y newidiadau.
Yn ôl un rhiant o ardal Machynlleth, Heulwen Davies, mae’n sefyllfa rwystredig na fydd bws ysgol ar gael i ddisgyblion o Bowys sy’n teithio i ysgolion yng Ngheredigion .
“Dwi ddim yn gallu credu bod Cyngor Sir Ceredigion wedi ‘neud y penderfyniad ar y funud olaf - maen nhw’n gwybod ers misoedd niferoedd disgyblion,” meddai wrth Newyddion S4C.
Ychwanegodd y dylai Cyngor Ceredigion fod wedi “trafod hyn cyn neithiwr.”
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion wrth Newyddion S4C bod "cryn dipyn o gam-wybodaeth wedi’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol".
"Gall Cyngor Sir Ceredigion gadarnhau nad oes unrhyw newid wedi’i wneud i’w contractau ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth i ddisgyblion sy’n gymwys i drafnidiaeth i Ysgol Penweddig ag Ysgol Penglais," medden nhw.
"Mi fydd angen ichi gysylltu gyda Lloyds Coaches yn uniongyrchol am unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth gyhoeddus yn ardal Machynlleth gan nad yw hynny yn rhan o'r contractau gyda Cyngor Sir Ceredigion."
Nid yw Lloyds Coaches wedi ymateb i Newyddion S4C hyd yma.
'Rhyfeddol'
Roedd 14 o ddisgyblion yn aros am fws y T2 ym Machynlleth i fynd i’r ysgol bore ‘ma ar ddiwrnod cyntaf y tymor, yn ôl Heulwen Davies.
“Y peth rhyfeddol oedd bod y criw o blant yn aros a’r bws ysgol yn pasio wrth iddo adael Machynlleth yn hollol wag,” meddai.
“Roedd bws y T2 o Fachynlleth yn hanner llawn – bydd dim digon o le yn y ddarpariaeth honno”.
O deithio ar y bws T2 i Aberystwyth, roedd yn filltir i'r plant gerdded o’r man gollwng yno i’r ysgol, meddai Heulwen Davies .
Dywedodd Lloyds Coaches yn eu cyhoeddiad y bydd angen i’r plant ddal y bws adref o CKs Aberystwyth am 15.40.
Ond ymateb Heulwen Davies oedd y byddai yn “amhosib i gerdded i’r safleoedd mewn amser.”
Mae Elsi, merch Heulwen wedi cael ei haddysg yn Aberystwyth ers cyfnod mynd i feithrinfa, meddai.
“Gan fod Elsi wedi dechrau yng Ngheredigion, mae’n naturiol iddi aros yn y sir [am ei haddysg],” meddai.

‘Gwarthus’
Mae Eleri Haf Evans yn fam i ddisgybl ym mlwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Penweddig, a dywedodd wrth Newyddion S4C bod y sefyllfa “jest ddim digon da”.
“Methu coelio bod nhw’n gadael hi tan pump o’r gloch noson cynt - mae o’n warthus,”meddai.
“Petaen ni heb weld y neges, byddai plant wedi bod yn aros yn y safle bws bore ‘ma”
Roedd mab James January-McCann yn dechrau ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol uwchradd yn Aberystwyth ddydd Mercher.
“Roedd wedi ymarfer dal y bws, wedi bod i ddiwrnod pontio ac yn y blaen ac yna mae’r cwbwl yn newid,” dywedodd wrth Newyddion S4C.
“Petaen nhw wedi cyhoeddi ar ddechrau’r gwyliau, bydden i’n gallu trefnu ffyrdd eraill ond mae’n hollol anerbyniol.
“Byddan nhw [Ceredigion] yn colli nifer fawr o ddisgyblion – o’n i am ddanfon y mab i’r ysgol yng Ngheredigion gan fod ei ffrindiau yno.
“Maen nhw’n gwthio plant rhag cael eu haddysg yng Ngheredigion.”