'Golau disglair': Teyrnged i fam-gu a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llandudno
Mae teulu mam-gu 89 oed a fuodd farw mewn gwrthdrawiad yn Llandudno wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Daphne Stallard yn dilyn gwrthdrawiad ar Stryd Brookes oddi ar Ffordd Caroline ddydd Llun.
Cafodd ei tharo gan lori ailgylchu Cyngor Sir Conwy ac fe gafodd dyn ei arestio wedi’r gwrthdrawiad, medd Heddlu'r Gogledd ar y pryd.
Mae ei theulu wedi dweud eu bod nhw wedi “syfrdanu” gan ei cholled sydyn, a hithau’n disgwyl dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed yn hwyrach y mis hwn.
Mewn teyrnged, dywedodd ei phlant Mary, Andrew a John Stallard ei bod yn “golau disglair” oedd yn llawn cariad ac wrth galon ei theulu.
Roedd yn fam ac yn fam-gu oedd bob tro yn "llawn balchder," medden nhw.
Cafodd ei disgrifio fel “dynes ffyddlon” oedd yn aelod o nifer o grwpiau cymunedol ac roedd hi'n treulio llawer o’i hamser yn "gofalu am bobl eraill."
“Roedd hi’n gofalu am bobl o bob oedran ac roedd hi’n mwynhau helpu’r plant bach yn Ysgol Sul yr eglwys yn fawr, yn ogystal ag ymweld â’r ‘henoed’ oedd yn aml iawn yn cynnwys y rheiny oedd yn llawer iau nag oedd hi!" meddai'r deyrnged.
Mi oedd hi’n wirfoddolwr “gweithgar” yn yr eglwys a hithau wedi bod yn briod i’r Parchedig Charles Stallard, a fu farw pum mlynedd yn ôl.
Roedd y pâr yn mwynhau ymarfer corff ac fe wnaethon nhw ddathlu pen-blwydd Mrs Stallard yn 80 drwy ddringo'r Wyddfa.
Fe wnaeth Ms Stallard hyfforddi fel gwyddonwraig wedi iddi astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Roedd hi’n athrawes mewn sawl ysgol uwchradd ar hyd ei gyrfa gan gynnwys pennaeth gwyddoniaeth mewn ysgol i ferched yn Birmingham.
“Mae ei cholled sydyn wedi ein syfrdanu ni i gyd," ychwanegodd ei theulu.
“Mae'n gysur i ni ei bod hi wedi ailymuno nawr â'i hannwyl Charles, a'u bod ill dau yn ddiogel yng ngofal Duw.”
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n parhau i ymchwilio yn dilyn marwolaeth Mrs Stallard.
Mae’r dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus wedi’r digwyddiad bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mae’r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 25000723615.