Mwy o blant Cymru'n derbyn addysg gartref nag erioed

Newyddion S4C
Mali

Mae’r nifer o blant yng Nghymru sy’n cael eu haddysg yn y cartref ar ei uchaf erioed, yn ôl ffigyrau newydd, er bod Llywodraeth Cymru yn dweud mai "mynychu'r ysgol sydd orau i’r rhan fwyaf o blant".

Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf roedd y ffigwr yn 7,176.

Mae’r ffigyrau wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf, yn enwedig ar ôl y pandemig.

Er mai mynychu'r ysgol sydd orau i’r rhan fwyaf o blant, meddai Llywodraeth Cymru, maen nhw’n cydnabod yr hawl i addysgu gartref.

Cafodd Mali, sy’n 15 oed ac o Fro Morgannwg, ddiagnosis o ddyslecsia ym mlwyddyn 7 wrth ddechrau’r ysgol uwchradd.

Dywedodd ei mam, Meinir, bod ei merch wedi ei ffeindio’n anodd prosesu gwybodaeth yn raddol dros y blynyddoedd.

“Oni ddim yn sylweddoli gymaint oedd hi’n sdryglo,” meddai.

“Jyst cyn y Nadolig fe wnaeth hi ddechrau cael panic attacks a dechrau cuddio yn y tai bach ac roeddem yn cael galwadau gan yr ysgol yn dweud nad oedden nhw’n gwybod lle oedd hi.” 

Image
Meinir
Mam Mali, Meinir

Bryd hynny fe benderfynodd y teulu dynnu Mali allan o’r ysgol gan dderbyn ei haddysg yn ei chartref gan ymgynghorwyr addysg.

“Mae hi lot hapusach ac yn fwy hyderus,” meddai Meinir.  “Mae safon y gwaith wedi mynd lan ac mae hi’n deall pethau. 

“Gydag un tiwtor a ni fel rhieni yn gallu esbonio stwff mae hi’n deall. Yn yr ysgol ambell waith doedd dim amser i’r athrawon esbonio stwff mewn ffordd wahanol felly mae hwn yn ei siwtio hi.”

Yn 2014/15, roedd 1,399 o blant yn cael eu haddysgu gartref. Yn 2018/19, y flwyddyn cyn y pandemig, roedd y ffigwr yn 2,517.

Cyfradd y disgyblion oedd yn cael addysg gartref dewisol yn 2024/25 oedd 15.3 o bob 1,000 o ddisgyblion.

Y ffigwr yn 2009/10 oedd 1.6 o bob 1,000 o ddisgyblion ac mae'r gyfradd wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny ym mhob awdurdod lleol.

Ceredigion oedd â'r gyfradd uchaf, sef 32.6 o bob 1,000 o ddisgyblion ac mae hynny wedi bod yn gyson ers 15 mlynedd.

Mae llai na 2% o blant Cymru yn derbyn neu haddysg yn y cartref.

Mae rhieni yn wirfoddol yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol os ydyn nhw’n addysgu eu plant adref, oni bai eu bod wedi eu tynnu allan o’r ysgol.

Mae’n golygu bod y nifer yn debygol o fod yn uwch.

'Llefydd prysur'

Gŵr a gwraig ydi Gavin a Kate Gibson ac maen nhw’n ymgynghorwyr addysg.

Fe sefydlon nhw Crossroads, sy’n darparu addysg yn y cartref, yn 2024.

Ar ôl y pandemig, mae nifer mwy o blant yn dioddef o orbryder cymdeithasol, meddai Kate.

 Mae tua 97% o’n plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

“Mae ysgolion yn lefydd prysur ac ar ôl bod adref mewn tawelwch gan weithio ar gyflymder sy’n gyfforddus iddyn nhw, roedd mynd yn ôl i awyrgylch yr ysgol i nifer o’n plant sydd yn neurodiverse yn heriol iawn.”

Image
Kate Gibson
Kate Gibson

Dywedodd bod ysgolion yn ei ffeindio’n gynyddol anodd i gefnogi plant gan fod y nifer sydd wedi eu diagnosis gydag anhwylder yn y sbectrwm awtistig ar gynnydd.

Yn ôl Comisiynydd plant Cymru, mae rhai teuluoedd yn teimlo mai addysg gartef yw’r “unig opsiwn” oherwydd bod eu plant yn gweld hi’n anodd ymdopi yn yr ysgol.

“Yn aml, mae hyn yn gysylltiedig â materion fel iechyd meddwl, neu ddiffyg cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol,” meddai Rocio Cifuentes.

 “Rhaid i gyllid ac adnoddau ar gyfer ein system addysg fod yn flaenoriaeth allweddol er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod plant yn derbyn y gefnogaeth gywir yn y meysydd yma.”

 Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobol sy’n dewis addysgu eu plant gartref ers y pandemig.

 "Er mai mynychu'r ysgol sydd orau i’r rhan fwyaf o blant, rydym yn cydnabod yr hawl i addysgu gartref,” meddai llefarydd.

“Pan fydd teuluoedd yn penderfynu addysgu eu plant gartref, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas."

Prif Lun: Mae Mali, sy'n 15 oed, yn derbyn ei haddysg yn ei chartref gan ymgynghorwyr addysg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.