‘Anodd cael dadl aeddfed am ffermio yng Nghymru’ medd gwleidydd

Lee Waters

Mae aelod o Senedd Cymru wedi dweud ei fod yn “anodd” cael dadl “tawel, myfyriol ac aeddfed” am ddyfodol ffermio yng Nghymru.

Ar drothwy'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, dywedodd AS Llafur Llanelli, Lee Waters, nad oedd y “polareiddio” yn y ddadl yn gwneud lles i ffermwyr yng Nghymru.

Roedd pleidiau gwleidyddol ac undebau ffermio wedi bod yn rhy barod i geisio “apelio at eu haelodau” yn hytrach na mynd i’r afael â maint yr her oedd yn wynebu’r diwydiant, meddai.

Roedd trafod gyda ffermwyr yn aml yn brofiad “garw” meddai. “Mae’n amgylchedd rhyfedd iawn sy’n wahanol iawn i unrhyw grŵp lobio wyt ti’n dod ar ei draws,” meddai wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales.

“Mae angen arweinyddiaeth gan sector sydd ddim bob tro yn gwneud beth fydd yn boblogaidd gyda’r oriel gyhoeddus a’n dweud eu bod nhw’n cael eu herlid ac sy’n derbyn realiti'r heriau ydan ni’n wynebu.

“Dydw i ddim yn beirniadu ffermwyr. Dydw i ddim yn cwyno am y ffordd rwy'n cael fy nhrin. 

“Dw i jyst yn gwneud y pwynt bod y ddadl ynghylch ffermio yn cael ei drin yn wahanol i unrhyw bwnc arall yng Nghymru.

“Dydw i ddim yn credu bod hynny'n gwasanaethu ffermwyr yn dda, ac nid yw'n gwasanaethu'r ddadl gyhoeddus ehangach.

“Mae heriau polisi cyhoeddus sylweddol yn wynebu pob un ohonom, ac ni allwn eithrio'r ddadl ffermio o hynny. 

“Mae'n rhaid iddi fod yn fwy aeddfed.”

Dywedodd bod rhan o’r bai ar hynny ar y gwrthbleidiau a oedd yn barod i achwyn er mwyn “plesio eu haelodau eu hunain.”

Ychwanegodd: “Fy mhwynt i yw, mae'r ddadl gyfan hon wedi mynd yn sownd. 

“Dydw i ddim yn pwyntio bys at neb, ond mae yna bobl dda, resymol yn ceisio mynd i’r afael â set anhygoel o anodd o heriau, ac mae Brexit wedi ei gwneud 10 gwaith yn waeth. 

“Felly mae hynny'n mynd i fynd yn anoddach gyda newid hinsawdd, ond mae angen i ni wynebu realiti'r 20 mlynedd sydd o'n blaenau.”

Brexit

Dywedodd Lee Waters fod angen i ffermwyr deall bod Llywodraeth Cymru yn sgil Brexit yn rhoi cymorthdaliadau i ffermwyr o’i phoced ei hun.

Dan yr amgylchiadau rheini doedd hi ddim yn afresymol i ofyn am newidiadau, meddai.

“Mae Brexit wedi newid y rheolau sylfaenol, ac nid yw hynny'n bwynt sydd wedi'i ddeall yn iawn,” meddai.

“Pleidleisiodd ffermwyr, ynghyd â mwyafrif y wlad, i adael yr Undeb Ewropeaidd. 

“Polisi Amaethyddol Cyffredin [yr Undeb Ewropeaidd] oedd y bwgan mawr yn y ddadl am flynyddoedd ac yn cythruddo pobl.

“A nawr ein bod ni allan o hynny, realiti bywyd yw nad yw'r arian a gafodd ei glustnodi a'i ddiogelu ar gyfer ffermio bellach wedi'i glustnodi a'i ddiogelu ar gyfer ffermio. 

“Mewn gwirionedd, mae wedi mynd. Felly rydyn ni'n gwario £239 miliwn bob blwyddyn. 

“Mae hynny'n swm mawr o arian ar gyfer cefnogaeth i ffermio, sy'n cyfateb i'r hyn oedd ganddyn nhw cyn Brexit, er bod yr arian rydyn ni'n ei gael wedi mynd. 

“Nawr, y cyfan rydw i'n ei ddweud yw ei fod yn rhesymol ein bod ni'n gofyn am bethau yn gyfnewid am hynny. 

“Ond y broblem yw, mae llawer o'r ddadl yn y cyfryngau ac yn y Senedd yn dweud bod unrhyw beth rydych chi'n gofyn amdano yn gyfnewid yn cael ei weld yn afresymol. 

“Mae'n cael ei weld fel peidio cydymdeimlo â ffermwyr, ddim yn deall ffermwyr, yn wrth-ffermwyr, sy’n hollol groes i’r gwirionedd.”

Ymateb

Wrth ymateb i'r cyfweliad ar Radio Wales dywedodd NFU Cymru: “Rydyn ni’n croesawu’n frwd y drafodaeth am ffermio yng Nghymru. 

“Mae'n drueni, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, bod Radio Wales wedi gwrthod ein cais i fod yn rhan o'r cyfweliad hwn gyda Lee Waters i drafod y pwynt a wnaeth yn y Senedd yn gynharach yr wythnos hon. 

“Mae cofnod Mr. Walters o'i brofiadau gydag undebau yn wahanol iawn i'n hatgofion ni ein hunain o'r cyfarfodydd hynny.

Rydyn ni’n annog Mr. Waters i ail ystyried yr hyn ddigwyddodd ac ymuno â ni mewn trafodaeth adeiladol cyn diwedd tymor y Senedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.