‘Ni ddylem orfod byw fel hyn’: Pryderon pentrefwyr am effaith cymylau llwch

Llwch Bro Morgannwg

Mae trigolion mewn pentrefi yn ardal ddeheuol Bro Morgannwg yn pryderu am yr effaith mae cymylau llwch o waith gerllaw yn cael ar eu hiechyd.

Dywedodd pentrefwyr yn Ffwl-y-mwn (Fonmon) a Ffont-y-gari, eu bod nhw wedi dioddef llygaid dolurus ac anawsterau anadlu oherwydd y lludw o danwydd wedi’i falurio (PFA) o Chwarel Aberddawan.

Y cwmni ynni rhyngwladol, RWE, sydd y tu ôl i’r gwaith ar y safle dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ei lanhau a chael gwared ar y PFA fel y gellir ei ddychwelyd i ddefnydd amaethyddol.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn ymchwilio i’r gwaith i sicrhau bod rheolaethau priodol wedi’u rhoi ar waith ac mae RWE wedi ymddiheuro am effaith y digwyddiadau diweddar – rhywbeth y dywedodd y cwmni eu bod yn ceisio mynd i’r afael ag ef “yn gyflym ac yn ddiwyd”.

Dywedodd Charlotte Troth, o Ffwl-y-mwn, ei bod wedi sylweddoli un diwrnod ym mis Gorffennaf fod gwadnau ei thraed yn “hollol ddu”.

Dywedodd: “Roeddwn i ond wedi cerdded i mewn i’r tŷ heb fy esgidiau ymlaen.

“Yna dechreuais edrych o gwmpas y tŷ ac roedd silffoedd ffenestri ystafell wely fy merch ddwyflwydd oed wedi’u gorchuddio â llwch du trwchus.

“Oherwydd ei bod hi wedi bod yn gynnes y diwrnod hwnnw, roedden ni wedi cael y ffenestri ar agor ac yn amlwg doedden ni ddim wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd tan yn ddiweddarach yn y dydd.

“Yn y bôn roedd y tŷ cyfan wedi’i orchuddio â llwch du trwchus, felly aethon ni i banig a dechrau glanhau popeth.

“Pan ddeffrais yn y bore roedd fel cael papur tywod yn fy llygaid… ac roedden nhw’n teimlo’n sych iawn."

Niwl

Roedd adroddiadau fod llwch wedi bod ar eu heiddo bron bob dydd dros yr wythnosau diwethaf, gyda'r llwch ar ben ceir, patios a hyd yn oed lloriau cegin ar ôl eu glanhau.

Dydd Gwener, Gorffennaf 4; dydd Mawrth, Gorffennaf 8; a dydd Llun, Gorffennaf 14 oedd y dyddiad gwaethaf meddai trigolion.

Dywedodd Denise Cooper: “Gwnaethon ni yrru yn ôl i'r pentref a meddwl ei fod fel niwl o un pen o'r castell yr holl ffordd i lawr i groesffordd Ffwl-y-mwn.

“Mae hynny wedi digwydd dair gwaith, y niwl hwn… ond o ran lefelau llwch yn ein cartrefi mae bob dydd.”

Dywedodd Denise Martlew o Ffwl-y-mwn: “Rwyf wedi gorfod cadw'r ffenestri a'r drysau ar gau yn amlwg oherwydd na allaf ei anadlu i mewn.

“Rydych chi'n ei agor am ddeng munud a'r llwch, mae'n dod i mewn.

"Mae'n rhaid i mi gysgu gyda fy ffenestri ar gau a glanhau'n gyson. Ni ddylem orfod byw fel hyn yn yr oes hon.”

Dywedodd RWE fod priodweddau PFA yn “hysbys” a’i fod “wedi’i ddosbarthu fel un nad yw’n beryglus”, gan ychwanegu bod “degawdau o ymchwil ac ailddefnyddio lludw yn cadarnhau bod PFA yn sefydlog ac yn ddiwenwyn”.

Dywedodd fod y gweithgaredd yn Chwarel Aberddawan, yn cynnwys gwaith hanfodol "fel rhan o rwymedigaeth y cwmni i adfer a thrawsnewid y safle er budd yn y dyfodol a defnydd amaethyddol".

Image
Llwch ar geir ym mro Morgannwg
Llwch ar geir ger y chwarel

Ymddiheuro

Defnyddiwyd y chwarel fel safle i gludo a storio PFA o Orsaf Bŵer Aberddawan pan oedd yn dal i weithredu.

Caeodd Gorsaf Bŵer Aberddawan, sef gorsaf bŵer glo olaf Cymru, yn 2020 ac mae wedi'i gwerthu i Ranbarth Prifddinas Caerdydd (CCR) fel rhan o'u cynlluniau i ddymchwel y safle a'i ailddatblygu fel cynllun cynhyrchu ynni gwyrdd.

Mae disgwyl i'r gwaith o ddymchwel yr hen orsaf bŵer gael ei gwblhau erbyn 2027, ond mae twmpath 17m tunnell o ludw gwastraff wedi'i gywasgu ar y safle hefyd a fydd yn cymryd blynyddoedd i'w symud a'i brosesu.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Yn dilyn adroddiadau am lwch yn Fonmon a Fontygary, rydym yn ymchwilio i weithgareddau sy'n cael eu cynnal ar ran RWE Generation UK yn y safle tirlenwi lludw yn y chwarel sy'n cael gwaith ailbroffilio fel rhan o'r broses o adfer y safle tirlenwi i ddefnydd amaethyddol.

“Byddwn yn cymryd camau gorfodi os oes angen i sicrhau bod rheolaethau priodol yn cael eu rhoi ar waith.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran RWE: “Mae RWE yn ymddiheuro’n ddiffuant am effeithiau’r llwch lludw a brofwyd gan drigolion ger safle gwaredu lludw Chwarel Aberthaw RWE.

“Rydym yn gweithio’n gyflym ac yn ddiwyd i fynd i’r afael â’r problemau ac mae camau lliniaru ychwanegol bellach yn cael eu rhoi ar waith ac yn cysylltu â thrigolion yn uniongyrchol i fynd i’r afael â’r materion hyn yn gyflym ac yn briodol."

Mae Cyngor Bro Morganwg wedi cael cais am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.