Pryder am effaith diwygio'r system gyfiawnder yn y gogledd ar y Gymraeg
Mae AS wedi codi pryderon am effaith uno meinciau ynadon gogledd Cymru ar yr iaith Gymraeg.
Mae llywodraeth y DU yn edrych ar ddiwygio'r system gyfiawnder lleol ledled Cymru a Lloegr.
Un o'r cynigion sy'n cael eu hystyried yw cyfuno tair mainc ynadon presennol gogledd Cymru yn un endid unigol.
Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi codi pryderon am effaith hynny ar wrandawiadau llys Cymraeg.
“Mewn achosion eithafol fe allai olygu, er enghraifft, ynadon sydd wedi arfer teithio i Gaernarfon yn gorfod mynd i Wrecsam, sydd ddwy awr i ffwrdd,” meddai wrth Radio Wales.
“Rhaid pwysleisio eu bod nhw’n wirfoddolwyr. Mae ganddyn nhw gyfrifoldebau eraill y tu hwnt i weinyddu cyfiawnder.
“Efallai eu bod nhw’n ofalwyr. Efallai eu bod nhw’n gweithio mewn meysydd eraill, yn gofalu am blant, yn gofalu am berthnasau oedrannus.
“Gallai ychwanegu pedair awr felly at eu taith olygu ein bod ni'n eu colli, ac mae hynny'n arbennig o arwyddocaol wrth weinyddu cyfiawnder trwy gyfrwng y Gymraeg.”
‘Hyder’
Dywedodd bod y Gymraeg wedi bod yn ystyriaeth eilradd yn ymgynghoriad Llywodraeth y DU, ac nad oedd cyfieithu popeth i’r Gymraeg yn ateb effeithiol.
“Yr hyn sydd angen gofyn ydi a fydd cyfiawnder ar gael yn effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg, sef, wrth gwrs, ein hawl fel siaradwyr Cymraeg,” meddai.
“Y Gymraeg yw iaith gyntaf y mwyafrif yng ngogledd-orllewin Cymru.
“Gall pobl ddod ar draws gyda llawer mwy o hyder, llawer mwy o awdurdod gan ddefnyddio un iaith yn hytrach na'r llall, a bydd hynny'n effeithio ar sut maen nhw'n cael eu trin yn y llys.
“Pan fydd rhywun yn dod gerbron y system gyfiawnder, gerbron ynadon, neu yn wir gerbron barnwr hefyd, pan fyddan nhw'n cyflwyno eu hunain gyda hyder, gyda hyder gwirioneddol yn y ffordd maen nhw'n siarad, bydd eu neges yn dod ar draws yn llawer cryfach.
“Mae gan gyfiawnder y potensial i adael i bobl euog gerdded yn rhydd mewn un achos, neu anfon rhai diniwed i'r carchar.
“Mae'n wirioneddol bwysig eu bod nhw'n gallu mynegi eu hunain yn effeithiol.”
Ymateb
Fe wnaeth Sarah Sackman, gweinidog y wladwriaeth yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ymateb i Liz Saville-Roberts yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnnos hon.
“Er y bydd ardaloedd cyfiawnder lleol fel y maent nawr - ffin weinyddol gyfreithiol a nodir mewn deddfwriaeth - yn cael eu diddymu, nid yw hyn yn golygu diwedd ar gyfiawnder lleol,” meddai.
“Mae bod yn lleol wrth wraidd llysoedd ynadon.
“Rydym am sicrhau bod ynadon yn parhau i deimlo'n gysylltiedig â'u cymunedau lleol, a bod dinasyddion lleol yn parhau i deimlo bod eu hynadon lleol yn eu gwasanaethu.”
Ychwanegodd: “Mae’r effeithiau ar yr iaith Gymraeg yn hynod bwysig yn y cyd-destun hwn.
“Fel y dywedodd yr Aelod, pryder allweddol i ynadon sy'n siarad Cymraeg yw effaith y cynigion ar yr iaith Gymraeg.
“Mae'r pryder hwn hefyd wedi'i fynegi gan aelodau eraill o farnwriaeth Cymru.
“Wrth wraidd hyn mae'r risg bosibl y gallai gwahaniaethau yng nghanran yr ynadon sy'n siarad Cymraeg yn y fainc arfaethedig gyfyngu ar gyfleoedd i ynadon neu ddefnyddwyr llys sy'n siarad Cymraeg siarad Cymraeg.
“Gadewch imi fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau'r Tŷ bod y Llywodraeth hon yn parhau i fod wedi ymrwymo'n gadarn i egwyddor darpariaeth ddwyieithog o wasanaethau llys yng Nghymru, ac i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu cyfiawnder yn y llysoedd hyn.”