
Ffliw adar wedi gorfodi perchennog busnes yn Sir Benfro i roi'r gorau i driniaeth IVF
Mae perchennog busnes yn Sir Benfro yn dweud ei bod wedi gorfod rhoi’r gorau i driniaeth IVF ar ôl i ieir ar ei fferm gael eu heintio â ffliw adar.
Angela Frayling-James a’i gŵr Alex yw perchnogion Sweet Home Alpaca – sef fferm alpaca sy’n gwneud elw drwy ymwelwyr – yng Nghuffern yn Hwlffordd.
Hyd at fis diwethaf roedd 120 o ieir yn cael eu cadw ar y fferm ble mae’r gŵr a'r wraig, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin, hefyd yn byw gyda’u mab tair oed, Elis.
Ond cafodd y teulu dro ar fyd pan gawson nhw wybod fis diwethaf bod yr ieir wedi eu heintio â ffliw adar. Roedd yn rhaid i'w ieir gael eu difa yn y fan a’r lle.
Roedd Mrs Frayling-Jones, 40 oed, yn y broses o dderbyn triniaeth IVF er mwyn ceisio beichiogi eto ar y pryd.
Am fod yna risg o gael ei heintio â’r feirws ei hunan, fe gafodd hi wybod y byddai yn rhaid iddi roi’r gorau i’w thriniaeth.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Mrs Frayling-Jones ei bod hi bron â chwblhau'r driniaeth ar y pryd. Roedd hi’n disgwyl cael ei sesiwn olaf ddeuddydd yn unig ar ôl cael cadarnhad bod ffliw adar yn bresennol ar ei fferm, meddai.
“Oherwydd y risg y byddem yn dal ffliw adar, a'r feddyginiaeth roedden ni'n cymryd i'n hatal rhag cael ein heintio, yn ogystal â’r holl straen, cawsom ni wybod bod y siawns y byddai’r IVF yn gweithio yn fach iawn felly'r cyngor y cawson ni oedd peidio â'i wneud.
“Roedd ‘na ddewis: ydyn ni’n brwydro i gadw ein busnes ar agor neu ydyn ni’n cael plentyn arall.
“A’r realiti yw… os nad oes busnes ‘da fi, does dim cartref gyda fi ac mae hynny’n golygu mod i methu gofalu am fy mab.”

'Angen gweithredu'
Ers iddyn nhw gael gwybod bod yr ieir wedi heintio â ffliw adar bron i bedair wythnos yn ôl, mae’r perchnogion busnes yn dweud eu bod yn dal i ddisgwyl am atebion.
Maen nhw wedi colli miloedd ar filoedd o bunnoedd ers y diwrnod hwnnw ac yn pryderu am eu dyfodol os nad oes ‘na weithredu ar frys.
Fe sylweddolodd Mr a Mrs Frayling-James bod rhai o’r ieir wedi mynd yn sâl gydag eraill wedi marw dros nos, ar 22 Mehefin.
Fe wnaeth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion gadarnhau deuddydd yn ddiweddarach eu bod nhw wedi heintio â ffliw adar. Roedd yn rhaid iddynt gau eu busnes am gyfnod ar unwaith.
Cafodd yr holl ieir, a gafodd eu hachub gan y perchnogion busnes, eu difa. Mae hynny yn dal i “bwyso ar galon” Mrs Frayling-James, meddai.
Mae Mrs Frayling-James yn dweud eu bod yn dal i ddisgwyl i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion roi caniatâd swyddogol iddynt lanhau eu fferm.
Mae’r oedi yn golygu eu bod yn gorfod cadw’r busnes ar gau am gyfnod pellach, gan olygu eu bod yn colli hyd yn oed yn fwy o’u bywoliaeth.

'Gutted'
Daw hyn i gyd wedi i’r Sioe Frenhinol gyhoeddi ar 27 Mehefin na fydd yr adran dofednod yn dychwelyd i’r maes eleni yn sgil pryderon am ffliw adar.
Y llynedd oedd y tro cyntaf i’r adran ddychwelyd i faes y sioe ers 2019. Mae Mrs Frayling-James yn dweud ei bod hi'n "hollol gutted" dros unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio eleni.
Fis Ionawr, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Barth Atal Ffliw Adar i Gymru gyfan, sydd yn cynnwys rheolau llym o ran cadw, symud ac edrych ar ôl adar.
Ar ddiwedd mis Mehefin fe gyhoeddodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) bod adar ar ddwy fferm yng Nghymru wedi cael eu difa ar ôl i achosion o ffliw adar gael eu darganfod yno.
Roedd yr achosion yn ymwneud â straen H5N1 o’r ffliw, a hynny ar ffermydd yn Hwlffordd, Sir Benfro yn ogystal â ger Glyn Ceiriog yn Sir Wrecsam.
Mae yna nifer o fathau gwahanol o ffliw adar ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn heintio pobl.
Ond mae pedwar straen wedi achosi pryder yn ystod y blynyddoedd diwethaf: H5N1 (ers 1997), H7N9 (ers 2013), H5N6 (ers 2014) a H5N8 (ers 2016).

'Gwallgof'
Ers i’w fferm gael ei heffeithio, mae Mrs Frayling-James wedi bod yn deffro bob bore yn ei dagrau.
Ond mae'n dweud ei bod hi bellach wedi gwylltio oherwydd yr oedi gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Mae'r diffyg gweithredu meddai yn ei hatal rhag glanhau ei fferm.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i’r teulu wisgo siwtiau bioddiogelwch 'hazmat' o amgylch y ffarm.
Mae’n dweud ei bod wedi bod yn "brwydro" gyda'r asiantaeth er mwyn iddyn nhw gymryd bagiau sbwriel sydd wedi eu heintio gyda ffliw adar o'r fferm.
“Mae’n wallgof. Mae ‘na ddau fag mas ‘na sydd a chynnwys bioddiogelwch ynddynt o’r diwrnod cyntaf – ac maen nhw dal yma.
“Hyd yn oed os o’n i’n gallu dechrau glanhau, byddwn i methu â glanhau oherwydd mae ‘na dal ffliw adar yma yn y bagiau.”
Mae tymor yr haf yn hanfodol i’w busnes, meddai. Mae’r elw o'r adeg hon o’r flwyddyn yn eu cynnal trwy gydol y gaeaf.
Ac er ei bod yn "mor ddiolchgar" bod dros £5,000 wedi ei roi ar dudalen codi arian i'w cefnogi, mae’n pryderu y gallai’r teulu golli eu busnes a’u cartref.
Mae Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn dweud eu bod yn ymchwilio yn dilyn “pryderon diweddar sydd wedi ei godi gan berchennog alpaca".
Dywedodd llefarydd: “Byddwn bob amser yn gweithio ar y cyd â pherchnogion i ddiogelu iechyd anifeiliaid ac amddiffyn y genedl rhag clefydau.”