
Y Sioe Frenhinol: 'Cynllun yn ei le' os oes unrhyw achos o'r Tafod Glas
Y Sioe Frenhinol: 'Cynllun yn ei le' os oes unrhyw achos o'r Tafod Glas
Mae yna dîm o filfeddygon ar faes y Sioe Frenhinol yn barod i weithredu os oes unrhyw achosion o afiechyd y Tafod Glas yn cael eu darganfod yno, meddai’r Prif Weithredwr.
Mae Aled Rhys Jones wedi ailadrodd ei gyngor i unrhyw gystadleuwyr “edrych yn fanwl” ar eu stoc cyn dod â nhw i’r sioe eleni ond mae cynllun yn ei le i "ddelio" gydag unrhyw achosion ar y maes.
Ni fydd arddangoswyr o'r Alban na Lloegr yn cael dod â'u da byw i’r Sioe sy’n dechrau ddydd Llun oherwydd cyfyngiadau ar symud stoc o ganlyniad i’r Tafod Glas.
“Mae yna dîm milfeddygol gyda ni yn gweithio drwy gydol y Sioe a drwy gydol y penwythnos yn arwain i fyny at y Sioe,” meddai Aled Rhys Jones wrth Newyddion S4C.
“Os oes unrhyw beth yn codi maen nhw yno ac yn gwneud eu gwaith yn rhagorol.
“Mae yna gynlluniau gyda ni - mae yna brosesau gyda ni i ddelio efo unrhyw achos pe bai yna rywbeth yn cael ei ddarganfod.
“Ond y cyngor gorau yw sicrhau bod arddangoswyr yn gwirio eu stoc cyn y down nhw i Lanelwedd er mwyn eu diogelwch eu hunain a diogelwch ein harddangoswyr i gyd.
“Mae yna dîm proffesiynol iawn o filfeddygon gyda ni ar y maes i sicrhau diogelwch pawb.”
‘Calonogol’
Tra na fu'n "benderfyniad hawdd" cyhoeddi’r cyfyngiadau ar ddefaid, gwartheg a geifr, un sgil effaith ydi bod rhagor o Gymry wedi llenwi’r bwlch drwy gystadlu eleni, meddai Aled Rhys Jones.
“Yn adran y defed rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn y bridiau cynhenid, sydd yn beth da,” meddai.
“Yn amlwg mae’r sefyllfa gyda’r Tafod Glas wedi bod yn anodd iawn i ymdopi gyda’r cyfyngiadau o fewn y diwydiant ar hyn o bryd.
“Ond mae’n rhaid i ni wneud y gorau o’r sefyllfa sydd ohoni a beth sydd yn galonogol iawn iawn ydi wrth edrych lawr y rhestr o fridiau cynhenid, bridiau Cymreig, mae yna fwy yn yr adrannau hynny na sydd wedi bod mewn blynyddoedd blaenorol sydd yn galonogol iawn.
“Da ni’n ddiolchgar iawn i’r holl arddangoswyr o Gymru sydd wedi dod allan yn gryf i gefnogi’r Sioe eleni.
“Ac yn yr un ystyr 'da ni yn cydymdeimlo gyda’r arddangoswyr o Loegr a’r Alban sydd wedi bod yn driw ac yn ffyddlon i’r Sioe dros y blynyddoedd.
“Ni fydden nhw’n gallu cystadlu eleni ond mae nifer fawr yn dal i ddod i gefnogi’r Sioe ac mi ydan ni’n falch iawn o hynny, a gobeithio wir y down nhw’n ôl i’n cefnogi ni'r flwyddyn nesaf.
“Ond mae’n wir i ddweud ei fod yn wych bod cymaint o Gymru wedi dod allan i gefnogi eleni.”

‘Iachus’
Mae yna nifer o bynciau llosg ym myd amaethyddiaeth eleni gyda’r dreth etifeddiaeth Llywodraeth y DU a Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi digio rhai ffermwyr.
Dywedodd Aled Rhys Jones ei fod yn disgwyl trafod brwd ond bod rhaid gwneud hynny mewn modd cyfrifol.
“Mae’r Sioe yn blatfform pwysig iawn i’r diwydiant i gynnal sgyrsiau a thrafodaethau,” meddai.
“Yn amlwg mae ‘na lot o gyhoeddiadau wedi bod yn ddiweddar sydd wedi cael effaith ar y diwydiant.
“Mae yna angen i’r diwydiant gael gwybodaeth i’w helpu nhw i wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.
“Beth sy’n bwysig ydi bod pobl yn ymdrin â’r trafodaethau wrth gwrs - yn cael cyfle i drafod â’r gwleidyddion. Mae nifer fawr ohonynt yn mynd i fod yn bresennol yn ystod y Sioe.
“Mae’n beth iachus bod pobl yn cael y cyfle i leisio eu barn. Yn amlwg mae’n rhaid bod yn gyfrifol a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn ddiogel.”

‘Iechyd meddwl’
Er gwaetha’r gefnlen wleidyddol mae'r Sioe hefyd yn gyfle i bobl “ddianc” o bwysau gwaith ac yn “bwysig i les y gymuned, i les unigolion a lles y diwydiant,” meddai Aled Rhys Jones.
“Pan da chi’n siarad am bethau fel iechyd meddwl, mae yna rôl gan y Sioe i chwarae wrth roi hwb i bobl ac i ddangos pa mor dda yw’r diwydiant.
“Mae’n dangos cymaint mae’r gwaith mae ffermwyr ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn cael ei werthfawrogi.
“Dyna sydd wedi bod yn wych am y Sioe ac mae’n un o gerrig sylfaen pam bod y Sioe wedi bod mor llwyddiannus yw’r cyswllt cry’ yna gyda’r werin, gyda’r tir, gyda’r pridd.”