Llofruddiaeth Daniel Morgan: 'Gwendid sylfaenol' yng ngallu Heddlu'r Met i ddelio â llygredd sefydliadol

Mae "gwendid sylfaenol " yng ngallu Heddlu'r Met i ddelio â llygredd sefydliadol. Dyna gasgliad arolygydd y maes plismona, mewn adroddiad hynod o feirniadol i farwolaeth y Cymro, Daniel Morgan.
Cafodd yr adroddiad ei lunio ar ôl i banel annibynnol feirniadu Heddlu'r Met am fethiannau yn yr achos i lofruddiaeth y ditectif preifat a oedd yn hannu o ardal Cwmbrân. Nodwyd bryd hynny fod llygredd sefydliadol wedi amharu ar yr ymdrechion i ddod o hyd i'r rhai laddodd Mr Morgan.
Cafodd Mr Morgan ei ddarganfod yn farw mewn maes parcio tafarn yn ne Llundain yn 1987. Does neb wedi ei gyhuddo o'i lofruddio.
Mae The Guardian yn nodi fod y llu wedi ei gyhuddo o fod yn "ddifater" er gwaethaf degawdau o addewidion. Yn ôl yr arolygydd, dyw Heddlu'r Met dal ddim wedi dysgu gwersi.
Darllenwch fwy yma