Carchar o saith mlynedd a hanner i ddyn o Gaernarfon am gyflenwi cyffuriau
Mae dyn o Wynedd wedi derbyn dedfryd o saith mlynedd a hanner dan glo.
Fe gafwyd Aly Khan, 64, o Gaernarfon yn euog o gyflenwi cyffuriau dosbarth A a bod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Daeth y dyfarniad yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Fe ddechreuodd yr ymchwiliad yn haf 2021 wedi i Heddlu'r Gogledd dderbyn adroddiadau fod Mr Khan yn cyflenwi cyffuriau dosbarth A yn ardal Caernarfon.
Cyflawnodd y llu warant yn ei gartref ac fe atafaelwyd tua 0.5kg o heroin.
Cafwyd hyd i symiau ychwanegol o gyffuriau ac arian yn ystod y misoedd wedi'r warant.
Mae Heddlu'r Gogledd yn annog unrhyw un sydd â phryderon am gyflenwad cyffuriau yn y gogledd i gysylltu â nhw.