Newyddion S4C

Dyn o'r Ffindir yn ysgrifennu llyfr i hyrwyddo Cymru

20/03/2022

Dyn o'r Ffindir yn ysgrifennu llyfr i hyrwyddo Cymru

Mae dyn sydd wedi bod yn dysgu’r iaith Gymraeg ers bron i 10 mlynedd eisiau hyrwyddo Cymru a’i iaith yn ei wlad enedigol, Y Ffindir. 

Mae Jani Koskinen, 33 oed sy’n byw yn Vantaa yn Y Ffindir wedi cyhoeddi llyfr yn Y Ffinneg sy’n trafod diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Enw’r llyfr yw Unohda Wales, lähde Kymrinmaahan! Sydd yn golygu  ‘Anghofia Wales, dos i Gymru!’ yn y Ffinneg. 

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Jani mai nod y llyfr yw annog pobl yn Y Ffindir i ymweld â Chymru a dysgu am y wlad. 

“Bwriad y llyfr yw hyrwyddo twristiaeth Cymru yn seiliedig ar yr iaith Gymraeg.

“Yn y llyfr dw i’n sôn am ddiwylliant Cymru, pethau fel Cymdeithas yr iaith, Cofiwch Dryweryn, Eisteddfod, Patagonia. Hefyd mae’r llyfr yn cynnwys ychydig bach o ramadeg geirfa ac ymarferion er mwyn dysgu’r iaith.”

Image
S4C
Mae Unohda Wales, lähde Kymrinmaahan! yn golygu  ‘Anghofia Wales, dos i Gymru!’

Mae Jani wedi ymweld â Chymru naw o weithiau ac mae ei lyfr yn cynnwys llefydd mae’n argymell i bobl ymweld â nhw, gan gynnwys bwytai a gwestai Cymreig. 

“Nes i ysgrifennu’r llyfr achos dwi isio i bobl yn Y Ffindir wybod mwy am Gymru ac achos dwi isio hyrwyddo twristiaeth. Gobeithio byddaf yn gallu sgwennu mwy am Gymru yn y dyfodol hefyd.”

Yn ôl Jani mae ganddo ddiddordeb mawr mewn ieithoedd lleiafrifol, ac wedi dysgu sawl iaith arall, ond Cymraeg yw ei hoff iaith.

Ac yn ddiweddar mae Jani wedi bod yn cyfieithu rhannau o’r Mabinogi i’r Ffinneg. 

“Dechreuais ddysgu Cymraeg cyn i mi ymweld â Chymru am y tro cyntaf yn 2013,” meddai.

“Nes i ddefnyddio llyfra' ac adnoddau ar y we. Mae rhaglenni S4C wedi bod yn help mawr hefyd wrth ddysgu’r iaith.

“Yn aml mae pobl yn gofyn a ydi’r iaith Gymraeg yn anodd i ddysgu, ond i mi, dydi hi ddim mor anodd â Saesneg. Dechreuais i ddysgu Saesneg tua 15 mlynedd cyn i mi ddechrau dysgu Cymraeg,  dwi rŵan yn siarad Cymraeg yn well na Saesneg.”

Mae Jani yn edrych ymlaen at ymweld â Chymru unwaith eto yn y dyfodol.

“Fy hoff le yng Nghymru ydy Caernarfon achos mae bron pawb yno yn siarad Cymraeg yno, ac mae’r tirluniau yn y gogledd yn hyfryd. 

“Dwi hefyd wedi mwynhau gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd yn y gorffennol."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.