Ethol Cherry Vann yn Archesgob newydd ar Gymru
Mae Cherry Vann, Esgob Mynwy, wedi ei hethol yn Archesgob newydd ar Gymru, yn dilyn cyfnod cythryblus diweddar i'r Eglwys yn Nghymru, wedi i'r Archesgob Andy John ymddeol o'i rôl.
Hi fydd y fenyw gyntaf i fod yn Archesgob ar Gymru.
Fe gyhoeddodd Andy John y byddai yn rhoi'r gorau i'w waith fel Archesgob Cymru ac fel Esgob Bangor ar unwaith ym mis Mehefin, wedi i ddau grynodeb o adroddiad gael eu cyhoeddi oedd yn ymwneud â methiannau yn ei esgobaeth.
Roedd y crynodebau’n cyfeirio at "ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol, a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.
Yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, cysegrwyd Cherry Vann yn Esgob Mynwy ym mis Ionawr 2020.
Cyn hynny gwasanaethodd fel Archddiacon Rochdale, yn Esgobaeth Manceinion, am 11 mlynedd.
Hyfforddodd Esgob Cherry ar gyfer y weinidogaeth yn Westcott House, Caergrawnt ac fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn 1989. Roedd ymhlith y menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriaid yn Eglwys Loegr ym 1994; gwasanaethodd yn Esgobaeth Manceinion.
Ar ôl bod yn gurad yn Flixton aeth yn Gaplan i Golegau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn Bolton ac roedd yn rhan o’r tîm gweinidogaethu yn Eglwys y Plwyf, Bolton. Aeth yn ei blaen i fod yn Gaplan i’r Gymuned Fyddar ym Manceinion ac yn Ficer Tîm yn Farnworth a Kearsley.
Gweinidogaethodd fel Rheithor Tîm ac fel Deon Bro cyn dod yn Archddiacon ar draws Ashton, Oldham a Rochdale. Roedd hefyd yn ganon mygedol yn Eglwys Gadeiriol Manceinion ac yn aelod o’r Synod Cyffredinol am bedair ar ddeg o flynyddoedd.
Daliodd Esgob Cherry swyddogaethau uwch yn llywodraethiant Eglwys Loegr. Roedd yn Llefarydd Siambr Isaf Confocasiwn Caerefrog ac yn aelod ex-officio o Gyngor yr Archesgobion.
Yn ddiweddar roedd yn aelod o’r Bwrdd Buddsoddiad Strategol a ddyrannodd arian sylweddol i brosiectau a arweiniodd at dwf eglwysig.
Roedd hefyd yn aelod o Grŵp Bugeiliol Ymgynghorol yr Archesgobion, gyda’r gyfrifoldeb o lunio egwyddorion bugeiliol ac adnoddau i helpu eglwysi gynnig croeso diffuant i bobl LGBTQI+.
Mae hi’n angerddol dros gyfiawnder a chymod ac mae wedi sefydlu a chadeirio grwpiau ar draws Esgobaeth Manceinion a ddaeth â phobl gyda safbwyntiau a chredoau gwahanol ar ordeinio menywod a materion yn ymwneud â rhywioldeb dynol at ei gilydd.
Mae Esgob Cherry yn byw gyda’i phartner sifil, Wendy, a’u dau gi.