‘Dwi’n ei esbonio fel mini-Glastonbury’ meddai cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod
Mae cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi dweud ei bod hi’n ei esbonio fel “mini-Glastonbury” i bobol Wrecsam.
Eleni yw’r wythfed tro i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ag ardal Wrecsam gyda’r tro diwethaf yn 2011 o fewn cof i nifer o bobl.
Dywedodd Llinos Roberts bod gan bobl yr ardal ryw syniad beth yw Eisteddfod ar sail Eisteddfod Llangollen ond bod angen newid rhai o’r syniadau hynny.
Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn dechrau ddydd Sadwrn ac yn parhau nes y dydd Sadwrn canlynol.
“Mae llawer o bobl yr ardal yn gwybod am yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen ond ddim yn gwybod pa mor wahanol yw’r Eisteddfod Genedlaethol,” meddai.
“Dwi wedi bod yn dweud wrth bobl fod llawer mwy i’r Genedlaethol na Llangollen, o’r cystadlu i’r stondinau, ac o’r digwyddiadau eraill ar y Maes i seremonïau’r Orsedd.
“Y ffordd orau i’w ddisgrifio, dwi wedi ffeindio, yw dweud fod yr Eisteddfod Genedlaethol fel ‘mini-Glastonbury’.
“Dwi ddim yn siŵr fod hynny’n hollol addas chwaith a dwi’n gobeithio’n arw y daw pobl wrth eu miloedd i weld yr Eisteddfod drostynt eu hunain.”
Prysur
Ers dwy flynedd bellach bu Llinos ac aelodau’r amrywiol bwyllgorau yn gweithio gyda swyddogion cenedlaethol yr Eisteddfod i drefnu’r gweithgareddau sydd ar fin cychwyn yn Is-y-coed ger Wrecsam.
“Pan ddechreuodd y pwyllgorau eu gwaith roedd ’na ddwy flynedd i wneud y trefniadau ac i godi arian i’r gronfa leol ond mae wedi dod rownd yn sydyn iawn mewn gwirionedd a dwi’n edrych ymlaen yn arw at yr Eisteddfod,” meddai.
Rhoddodd deyrnged i frwdfrydedd trigolion lleol, y rhai sy’n siarad Cymraeg a’r siaradwyr newydd, fu’n trefnu gweithgareddau i godi arian, ac ychwanegodd fod y to ifanc wedi bod yn brysur tu hwnt yn cymryd rhan mewn digwyddiadau codi ymwybyddiaeth ac arian.
“Er fod llawer o elfennau’r Eisteddfod honno’n berthnasol o hyd, mae’r ŵyl wedi esblygu’n sylweddol ers hynny ac rydw i’n obeithiol y daw pobl o bob cwr o Gymru yma i Wrecsam i fwynhau’r Eisteddfod ac i weld rhywfaint o’r ardal o’n cwmpas,” ychwanegodd Llinos.
Bydd hi’n wythnos hynod o brysur i Llinos. Nid yn unig mae ganddi holl ddyletswyddau’r cadeirydd i’w cyflawni bydd hefyd yn cystadlu mewn cystadlaethau corawl ac yn cymryd rhan yn sioe’r Eisteddfod, ‘Y Stand’.
“Rhwng bob dim dwi wedi bod yn brysur iawn yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod,” meddai. “Dwi’n canu mewn dau gôr.
“Mae Lleisiau Clywedog yn griw hwyliog a brwdfrydig o Wrecsam a’r cyffiniau sy’n canu caneuon gwerin a hen ffefrynnau o’r 70au a chaneuon cyfoes. Cewch gyfle i’n gweld a’n clywed ar Lwyfan y Maes amser cinio dydd Llun.
“Byddwn hefyd yn cystadlu mewn dwy gystadleuaeth, y côr lleisiau soprano ac alto a’r côr alaw werin ac rydyn ni hefyd yn cyflwyno’r wobr ariannol yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas offerynnol i rai dros 19 oed.
“Ac mae Côr Ni yn gôr a sefydlwyd yn 2023 yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod i adlewyrchu ein hymroddiad i feithrin tyfiant corawl a diwylliant Cymreig yn Wrecsam.
“Byddwn yn cystadlu brynhawn Sul yn y gystadleuaeth i gorau newydd. Rydw i’n hynod falch bod ’na gymaint o gorau newydd wedi cofrestru, dros ddwsin yn ôl bob sôn, a dwi’n gobeithio y bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael gymaint o hwyl a mwynhad â ni wrth ganu.”
Mae Llinos hefyd yn rhan o gôr yr Eisteddfod sy’n perfformio yn sioe ‘Y Stand’ a fydd yn agor y brifwyl.
“Dwi’n gefnogwr brwd iawn o glwb pêl-droed Wrecsam ac yn hynod falch o’u llwyddiant diweddar yn y gynghrair ac mae’r sioe yn adlewyrchu’r gymuned glos a hapus sy’ ’na yn y clwb,” meddai.
“Mae’n sioe arbennig iawn, ac rydyn ni wedi bod yn ymarfer yn galed ers misoedd. Gobeithio y bydd pawb yn ei mwynhau,” ychwanegodd.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed rhwng 2–9 Awst.