Llofruddiaeth honedig: Teyrnged teulu i ddyn o Abertawe

Timmy Matthews

Mae teulu dyn 63 oed a fu farw yn Abertawe ddydd Gwener ddiwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Mae dyn 51 oed wedi ei arestio a’i gyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â marwolaeth Timmy Matthews yn ardal Brynmill y ddinas.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Matthews ei fod yn “gymeriad cariadus”.

“Mae ein teulu a phawb yn y gymuned mewn sioc o weld beth sydd wedi digwydd,” meddai'r teulu.

“Bydd ei ferch, ei chwaer a’i holl ffrindiau yn Abertawe yn ei golli’n fawr.”

Roedd Mr Matthews yn byw yn ardal Townhill y ddinas.

Cafodd Steven Vonk, 51 oed, hefyd o Abertawe, ei gyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad y tu allan i dafarn a chaffi The Mill, Heol Brynymor rywbryd cyn 20.15 nos Wener 25 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.