Wenna Bevan Jones o Landysul i dderbyn Medal R Alun yn Eisteddfod Wrecsam

Wenna Bevan Jones

Wenna Bevan Jones o Landysul fydd yn derbyn Medal R Alun gyntaf erioed yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Nod y Fedal yw dathlu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol a’u bro medd y Brifwyl. 

Yn wreiddiol o Faldwyn, mae Wenna, 80 oed, wedi byw yn ardal Llandysul ers dros hanner canrif, ac mae wedi treulio ei chyfnod yn yr ardal yn gweithio’n “ddi-flino” yn y gymuned leol i hyrwyddo diwylliant Cymreig.

Wrth glywed ei bod hi’n derbyn y Fedal dywedodd Wenna ei bod hi wedi “synnu” gan yr “anrhydedd” – a hynny’n enwedig oherwydd ei bod ag atgofion melys o’r Barchedig R Alun Evans a’i deulu.

“Roedd yn sioc, ond dwi’n gwerthfawrogi’r anrhydedd gan fy mod yn cofio’r teulu yn Llanbrynmair – R Alun a’i ddiweddar dad, y Parchedig Robert Evans,” meddai.  

“Roedd fy nhad yn fferyllydd ym Machynlleth, ac rwy’n cofio hynny’n glir.”

Penderfynodd Wenna symud i ardal Llandysul ar ôl i’w gŵr, Huw, ennill swydd fel seiciatrydd yn Ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin ac Ysbyty Glangwili.

Roedd hi’n byw yn ninas Birmingham ar y pryd ble’r oedd hi’n gweithio fel nyrs. 

“Penderfynais fod rhaid dod i adnabod yr ardal, a dechreuais fynd i Merched y Wawr,” meddai Wenna wrth drafod y brofiad o i symud i Landysul degawdau yn ol. 

Tyfodd ei hymroddiad i’r gymuned o hynny ymlaen ac erbyn hyn mae’n parhau i gefnogi llu o fudiadau lleol. 

Blynyddoedd o wasanaeth

Mae Wenna yn ysgrifenyddes drylwyr a gohebydd y wasg i gangen Llandysul o Ferched y Wawr, ac wedi gwasanaethu fel Llywydd cangen, ysgrifenyddes Pwyllgor Dyfed, ac ysgrifenyddes pwyllgor cofeb Gwenllian yng Nghydweli.

Mae hefyd yn weithgar gyda Merched Glannau Teifi, gan ymgymryd â swyddogaethau megis llywydd, ysgrifenyddes a gohebydd y wasg. Hi oedd prif symbylydd Cymdeithas Gefeillio Llandysul/Plogoneg, gan groesawu sawl mintai o Lydaw i’r fro.

Mae’n gwneud cyfraniad nodedig i Gymdeithas Cymmrodorion Llandysul fel ysgrifenyddes a gohebydd y wasg ers blynyddoedd lawer, ac mae’n gyn-lywydd. Mae Wenna hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol papur bro Y Garthen

Fe’i derbyniwyd i’r Orsedd yn 2009 am ei chyfraniad arwyddocaol i’w hardal. Mae’n aelod ffyddlon o gapel Carmel, lle mae’n cynorthwyo i drefnu digwyddiadau dan nawdd yr addoldy.

Ers 25 mlynedd mae wedi bod yn Ynad Heddwch ac yn Gadeirydd ar Fainc Ceredigion ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli Cwmni Theatr Arad Goch, yn ogystal a rhan flaenllaw o raglenni nodwedd lleol.

Bu’n llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Tregroes ac Ysgol Dyffryn Teifi, yn ogystal ag ysgrifenyddes Cymdeithas Rhieni ac Athrawon y ddwy ysgol. 

Hi oedd trefnydd cyntaf cynllun ‘Pryd ar Glud’ yn ardal wledig Llandysul, ac aelod brwd o bwyllgor yr Ŵyl Fwyd. Bu hefyd yn Swyddog Croeso gweithgar i artistiaid yng Ngŵyl Werin y Cnapan.

Sefydlodd Gylch Darllen Llandysul ac mae hefyd yn chwarae rhan flaenllaw wrth helpu gyda Chymdeithas y Dysgwyr yn yr ardal. 

Fel merch ifanc ym Maldwyn, roedd Wenna hefyd yn adrodd mewn eisteddfodau lleol. 

Beth yw Medal R Alun?

Mae’r Fedal yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf erioed eleni er cof am y diweddar Barch. R Alun Evans, oedd yn ffigwr canolog yn natblygiad yr Eisteddfod.

Ag yntau wedi gwasanaethu ar gyngor yr Eisteddfod am flynyddoedd lawer, cafodd ei anrhydeddu’n Gymrawd yn 2007 am ei wasanaeth i’r Brifwyl.

Bu farw ychydig ddyddiau wedi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddwy flynedd yn ôl, yn 86 oed.

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol y bydd y Fedal yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i unigolyn sydd “fel R Alun, wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol am gyfnod sylweddol o amser.” 

“Bydd y wobr yn cadw enw R Alun yn fyw ar wefusau pobl Cymru am genedlaethau i ddod,” meddai. 

Roedd ei deulu wedi croesawu’r penderfyniad i greu’r wobr. Dywedodd ei ferch, Betsan Powys, “Rydym wrth ein bodd gyda’r syniad gan y bydd yn cadw ei enw yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bu’n rhan mor fawr o’i fywyd. 

“Rydym yr un mor hapus fod y wobr i’w chyflwyno i rywun sydd wedi gwasanaethu ei bro a’i chymuned.”

 Bydd Wenna Bevan Jones yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod am 13:50 brynhawn Sul, 3 Awst.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed rhwng 2–9 Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.