Dau frawd o Brydain, 11 ac 13 oed, wedi boddi yn y môr yn Sbaen
Mae dau frawd o Brydain, 11 ac 13 oed, wedi boddi yn y môr oddi ar arfordir gogledd ddwyrain Sbaen.
Cafodd y gwasnaethau brys eu galw i draeth Llarga, ger Salou am tua 20.45 nos Fawrth, yn ôl asiatnaeth Gwarchod Dinesig Catalonia.
Cafodd y bechgyn, a gafodd eu hysgubo i ffwrdd o'r traeth gan geryntau pwerus, driniaeth ar unwaith ond bu farw'r ddau yno, yn ôl y cyfryngau lleol.
Cafodd tad y plant, a oedd hefyd wedi mynd i’r dŵr, ei achub gan y gwasanaethau brys. Mae’n parhau yn yr ysbyty ar ôl cael ei dynnu o’r dŵr yn anymwybodol.
Fe wnaeth yr heddlu lleol, y gwasanaethau meddygol a’r gwasanaeth tân ymateb i’r digwyddiad, tra bod tîm o seicolegwyr hefyd yno i gynorthwyo teulu'r plant.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu: “Rydym yn cefnogi teulu dau o blant Prydeinig sydd wedi marw yn Sbaen ac sydd mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol.”