Penodi Ashok Ahir yn Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

18/03/2022
Ashok Ahir

Mae Ashok Ahir wedi ei benodi’n Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae Andrew Evans wedi cael ei benodi’n Is-lywydd newydd.

Mae Mr Ahir wedi bod yn Llywydd Dros Dro y Llyfrgell Genedlaethol ers Medi 2021.

Dywedodd Mr Ahir: “Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru raglen waith uchelgeisiol sydd â'r nod o gyflawni amcanion strategaeth pum mlynedd newydd.

"Rwy'n edrych ymlaen at arwain grŵp rhagorol o ymddiriedolwyr ar adeg sy’n cynnig llu o gyfleoedd. Yn ogystal â bod yn gartref i gof y genedl, mae gan y Llyfrgell hefyd rôl bwysig i'w chwarae wrth i ni adolygu, ail-ddychmygu a dathlu amrywiaeth y profiad Cymreig.”

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden: “Rwy'n falch iawn bod Ashok wedi'i benodi i'r rôl uchel ei phroffil, strategol a dylanwadol hon yn y sector diwylliannol yng Nghymru.

"Bydd ganddo rôl hanfodol wrth sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau i gyflawni canfyddiadau'r Adolygiad wedi’i Deilwra a gweithredu cynllun strategol pum mlynedd y Llyfrgell. Bydd yn llysgennad effeithiol dros y Llyfrgell gan ychwanegu at ei brofiad o fod yn Llywydd dros dro.

“Mae hefyd yn bleser mawr penodi Andrew yn Is-lywydd. Bydd yn eiriolwr brwd dros y Llyfrgell a bydd yn dod â sgiliau a dealltwriaeth newydd i'r Bwrdd. Bydd ei arbenigedd mewn codi arian yn ychwanegu gwerth mawr at waith y Llyfrgell.”

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Rwy’n hapus iawn i weld Ashok yn cael ei benodi i swydd y Llywydd, ac rwyf eisoes yn ddyledus iawn iddo am ei arweiniad a'i gefnogaeth fel Llywydd dros dro yn ystod y chwe mis diwethaf. Mae hwn yn benodiad gwych a bydd y Llyfrgell yn elwa'n fawr ar y penodiad hwn. 

“Rydyn ni hefyd yn croesawu Andrew i swydd yr Is-lywydd ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef: rydyn ni’n gwybod ei fod yn berson galluog iawn sydd â sgiliau, cymwyseddau a phrofiadau eang mewn sawl maes, a bydd y Llyfrgell yn sicr yn elwa arnynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.