Gweinidog Iechyd yn 'ymddiheuro'n ddiamod' ar ôl gwaharddiad gyrru o chwe mis
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan A.S., wedi ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis.
Daeth y gwaharddiad o ganlyniad iddi groesi'r trothwy pwyntiau ar ei thrwydded, ar ôl gyrru yn gyflymach na 30 milltir yr awr ar ffordd yr A525 yn Wrecsam ym mis Mehefin y llynedd.
Cafodd ei gwahardd yn ei habsenoldeb yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod wedi pledio yn euog i gyhuddiad o oryrru ac mae hi'n ymddiheuro yn "ddiamod".
Penodwyd Eluned Morgan yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mai 2021.
Cafodd ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 2016 fel aelod rhanbarthol dros y Canolbarth a'r Gorllewin.
Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, cyn symud i fod yn Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn 2018.
Mae'r Farwnes Morgan hefyd yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi.
Dywedodd Eluned Morgan AS: "Rwyf wedi pledio'n euog i gyhuddiad o oryrru ac rwy'n derbyn cosb y llys yn llawn. Nid yw hyn yn rhywbeth yr wyf yn falch ohono ac ymddiheuraf yn ddiamod."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru am ymateb.