Naddu cadair Eisteddfod Genedlaethol 2023 o goedyn o'r Lôn Goed
Bydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn cael ei naddu o foncyff coeden o'r Lôn Goed enwog ger Chwilog.
Disgynnodd y coedyn mewn storm tua saith mlynedd yn ôl ac roedd yn rhan o un o goed derw gwreiddiol y Lôn Goed, a blannwyd tua dau gan mlynedd yn ôl.
Cafodd y goeden ei anfarwoli yng ngherdd R. Williams Parry, 'Eifionydd', sydd yn clodfori harddwch yr ardal.
Cyflwynir y Gadair gan deulu'r diweddar Dafydd Orwig, addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Gwynedd.
Roedd y teulu yn awyddus iawn i sicrhau fod gwreiddiau’r Gadair yn llythrennol ym mro’r Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd.
Dywedodd Huw Orwig ar ran y teulu: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i berchnogion fferm Tyddyn Heilyn, Chwilog, Mr a Mrs Williams, am gynnig y pren i gynllunydd y Gadair.
"Mae’r ffaith ein bod ni’n cael y cyfle i wneud defnydd newydd ac amgen o goedyn oedd wedi’i golli mewn storm yn apelio’n arw atom ni fel teulu."
“Gyda chymaint o sôn am stormydd yn creu difrod cynyddol i’n cynefinoedd dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n braf meddwl ein bod ni’n gallu defnyddio coedyn a fu’n rhan o lenyddiaeth ein gwlad yng ngherdd R Williams Parry er mwyn anrhydeddu’r bardd buddugol ar lwyfan y Pafiliwn ym mis Awst 2023.”
Yn ogystal â defnyddio coedyn eiconig o’r Lôn Goed, mae’r teulu hefyd yn awyddus i weld llechen neu lechi fel rhan o gynllun y Gadair, o gofio mai un o blant Bro’r Llechi oedd Dafydd Orwig.
Bydd y gadair hefyd yn plethu cysylltiad Dafydd Orwig ag Iwerddon, lle cafodd ei fagu am ran helaeth o’i blentyndod cynnar.
Nod y teulu yw gweld Cadair a fydd yn y pen draw ar waith mewn tŷ, fel rhan o ddodrefn arferol y cartref, ond Cadair a fydd hefyd yn edrych yn drawiadol ar lwyfan eang y Brifwyl.
Nid oes neb wedi eu penodi i ddylunio’r gadair, ac mae ceisiadau ar agor drwy wefan yr Eisteddfod.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ar gyrion Boduan rhwng 5 a 12 Awst 2023.