Newyddion S4C

Darpar-gadeirydd S4C: Ffigyrau gwylio'r sianel 'yn her enfawr'

Delyth Evans

Mae darpar-gadeirydd S4C wedi cydnabod fod ffigyrau gwylio'r sianel yn "her enfawr".

Wrth gael ei holi gan aelodau'r Pwyllgor Dethol Cymreig yn San Steffan, dywedodd Delyth Evans ei bod hi eisiau gweld mwy o bobl yn gwylio cynnyrch y sianel, ond bod hi'n cydnabod fod hynny'n anodd ar adeg pan roedd gymaint o gystadleuaeth.

"Fedra i ddim smalio fy mod i'n gyfforddus â'r ffigyrau gwylio - dydw i ddim," meddai.

Mae disgwyl i benodiad Delyth Evans i'r swydd gael ei gwblhau’n ffurfiol wedi ei hymddangosiad gerbron y pwyllgor brynhawn ddydd Mercher. 

Dywedodd wrth y pwyllgor fod nifer o bobl wedi dweud wrthi bod hi'n "ddewr iawn" i roi ei henw ymlaen ar gyfer y swydd, wedi cyfnod cythryblus o fewn S4C, yn cynnwys honiadau o fwlio o fewn y sefydliad dwy flynedd yn ôl.

"Dydw i ddim yn ei ystyried fel mater o fod yn ddewr, ond mae'n dasg sylweddol," meddai Ms Evans, gan ychwanegu ei bod hi eisiau creu "diwylliant newydd" o fewn y sianel.

"Y peth pwysig yw fod yna arweiniad cryf iawn yn dod o'r Bwrdd; fod yna deimlad pan fo problemau'n codi o fewn y sefydliad, fod pobl yn teimlo y gallen nhw ddod a'r problemau i'r bwrdd; bod 'na ddim ofn," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi eisiau "adennill hyder", gan ychwanegu ei bod hi'n teimlo fod "gwaith da" wedi ei wneud o fewn S4C yn y flwyddyn ddiwethaf i newid y diwylliant.

Dywedodd Ms Evans ei bod hi eisiau gweld trefn ariannu bresennol S4C yn parhau, gydag arian yn dod o'r ffi drwydded.

"Mae'n bwysig fod S4C yn parhau i brofi'i gwerth - o ran yr iaith, y diwylliant, ond hefyd o ran yr economi," meddai. 

"Mae S4C yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i economi Cymru." 

Yn enedigol o Gaerdydd, aeth Delyth Evans i Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gyda chefndir mewn newyddiaduraeth, fe dreuliodd gyfnod yn ysgrifennu areithiau gwleidyddol cyn symud i fyd gwleidyddiaeth ei hun yn ddiweddarach.

Roedd yn aelod o’r Cynulliad am dair blynedd rhwng 2000 a 2003, gan gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Gwasanaethodd fel Dirprwy Weinidog dros y Gymraeg, Materion Gwledig a’r Amgylchedd yn ystod y cyfnod hwn. 

Cyfnod cythryblus

Gyda Delyth Evans yn cael ei ffafrio ar gyfer y rôl, byddai'n olynu'r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb a gafodd ei benodi'n Gadeirydd dros dro ar y sianel fis Mawrth 2024.

Dywedodd Mr Bebb ar y pryd nad oedd eisiau bod yn gadeirydd yn llawn amser pan fyddai ei gyfnod dros dro yn dod i ben ym mis Mawrth 2025.    

Cafodd Mr Bebb ei benodi i'r rôl wedi i Rhodri Williams gyhoeddi rai misoedd ynghynt nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer ail gyfnod yn Gadeirydd S4C.

Daeth ymadawiad Rhodri Williams wedi cyfnod cythryblus i’r sianel, yn dilyn honiadau o fwlio.

Collodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle ei swydd gyda’r darlledwr wedi i adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr 2023.

Roedd y ddogfen yn nodi fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig y Prif Weithredwr "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".

Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.

Dechreuodd Geraint Evans yn ei swydd fel Prif Weithredwr S4C fis Ionawr eleni, ar ôl ymuno â S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.