Newyddion S4C

10 mlynedd o garchar i arweinydd taith badlfyrddio lle bu farw pedwar o bobl

23/04/2025
Nerys Lloyd

Mae arweinydd taith badlfyrddio lle bu farw pedwar o bobl ar Afon Cleddau yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn 2021, wedi ei dedfrydu i garchar am 10 mlynedd a chwe mis.

Roedd Nerys Lloyd o Aberafan eisoes wedi pledio'n euog i ddynladdiad y pedwar.

Bu farw tri padl-fyrddiwr, Paul O’Dwyer, 42, o Bort Talbot, Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais ar yr afon yn Hwlffordd, ar 30 Hydref, 2021.

Bu farw Andrea Powell, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr yn yr ysbyty yn ddiweddarach. 

Nerys Lloyd, sy'n 39 oed, oedd perchennog ac unig gyfarwyddwr Salty Dog Co Ltd, a drefnodd y daith badlfyrddio ar ddiwrnod y marwolaethau.

Yn gyn swyddog yr heddlu, roedd Lloyd yn gweithredu fel hyfforddwr y diwrnod hwnnw, ochr yn ochr â Mr O’Dwyer, a gafodd ei ladd.

Fe blediodd Lloyd yn euog i ddynladdiad ar sail esgeulustod difrifol yn Llys y Goron Abertawe ym mis Mawrth eleni.

Image
Padl-fyrddwyr
Morgan Rogers, Nicola Wheatley, Paul O'Dwyer ac Andrea Powell.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher fod Nerys Lloyd wedi dweud wrth ei gwraig - mewn sgwrs a recordiwyd yn anfwriadol ar ei horiau ffôn ar ôl y digwyddiad - ei bod “ar ben”.

Dywedodd Mrs Ustus Stacey: “Mewn sgwrs gyda’ch gwraig, fe ddywedoch wrthi mai eich bai chi oedd e 100% ac mae’n debyg na ddylech fod wedi mynd ar y dŵr.”

Ychwanegodd: “Hyd yn oed o’r bont fe allech chi glywed pa mor gythryblus oedd y dŵr yn mynd dros y gored ond fe wnaethoch chi gario ymlaen beth bynnag.”

Wrth ei dedfrydu dywedodd y barnwr fod yna "berygl amlwg ac eithafol" o badlfyrddio yn y rhan yna o'r afon. Roedd pobl yn gwybod am y perygl a roedd arwyddion yn rhybuddio o hynny ger yr afon.

Dywedodd fod Lloyd wedi cael hyfforddiant mewn risg yn ei gwaith gyda'r heddlu a'r RNLI.

"Roeddech chi'n gwybod be ddylech chi wneud, ond fe fethoch chi a gwneud hynny," meddai'r barnwr.

'Trawma'

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Cameron Ritchie, o Heddlu Dyfed-Powys yr hoffai fynegi ei gymdeimlad diffuant â theuluoedd y rhai a fu farw.

“Roedd y digwyddiad a ddigwyddodd yn Hwlffordd ar 30 Hydref 2021 yn achos trasig iawn a arweiniodd at farwolaethau cwbl osgoadwy pedwar unigolyn,” meddai.

“Clywsom yn y llys sut mae’r digwyddiad hwn wedi chwalu pedwar teulu, a gobeithiwn y bydd gwersi’n cael eu dysgu a fydd yn atal hyn rhag digwydd eto.

“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth a helaeth, a hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a Gwasanaeth Erlyn y Goron am eu proffesiynoldeb a’u diwydrwydd i sicrhau’r canlyniad hwn.”

Dywedodd Helen Turner, Arolygydd gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch bod pedwar bywyd wedi eu colli yn “ddiangen” a’r goroeswyr wedi eu “trawmateiddio”.

“Roedd Nerys Lloyd yn llwyr gyfrifol am y penderfyniad i fynd i mewn i’r dŵr tra bod yr afon wedi llifo, ac am geisio mynd â phadlwyr dibrofiad dros y gored,” meddai.

“Roedd hyn yn gwbl ddi-hid ac roedd modd rhagweld y perygl o farwolaeth.

“Rhoddodd y dioddefwyr eu ffydd yn Lloyd i gyflenwi padl ddiogel a phleserus, ond trwy ei hanallu, ei difaterwch a’i hunanfoddhad, methodd â chynllunio ac asesu’r perygl amlwg wrth y gored na chymryd camau diogelwch sylfaenol hyd yn oed. 

“Drwy beidio â thrafod y peryglon ar y daith, ni roddodd Lloyd gyfle i’r cyfranogwyr wneud penderfyniad rhesymedig am eu cyfranogiad eu hun ar y dydd.

“Nid yw iechyd a diogelwch yn rhwystr i weithgareddau anturus, sy’n cael eu mwynhau’n ddiogel gan bobl bob dydd. Mae’n rhaid i drefnwyr gymryd camau cymesur i adnabod a rheoli peryglon gwirioneddol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.