Dros hanner ymgeiswyr etholiad y Senedd yn dweud eu bod wedi wynebu camdriniaeth
Fe wnaeth dros hanner yr ymgeiswyr yn etholiad y Senedd ym mis Mai wynebu camdriniaeth yn ystod yr ymgyrch, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae’r adroddiad gan y Comisiwn Etholiadol yn dweud bod 54% o ymgeiswyr yn dweud eu bod wedi profi aflonyddu neu fygythiadau, gyda menywod yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, fod angen mynd i’r afael â chamdriniaeth cyn etholiadau yn y dyfodol.
Roedd “lefelau cynyddol o gam-drin ymgeiswyr a chamwybodaeth yn parhau i fod yn destun pryder,” meddai.
“Heb welliannau i ddiogelwch ymgeiswyr, mae risg sylweddol y bydd pobl yn peidio â sefyll mewn etholiadau yn y dyfodol.
“Mae ein hadroddiad yn galw ar bleidiau i hyrwyddo ymgyrchu parchus, ac ar lywodraethau Cymru a’r DU a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gymryd camau i amddiffyn pleidleiswyr rhag camwybodaeth a chael gwared ar gynnwys camdriniol.”
‘Diduedd’
Roedd y Comisiwn Etholiadol hefyd wedi cynnal arolwg o bleidleiswyr, gan ganfod bod y mwyafrif yn parhau i fod yn fodlon iawn â’r broses bleidleisio.
Ond roedd diffyg ymwybyddiaeth cyffredinol yn parhau ynglŷn â’r system bleidleisio newydd.
Nid oedd 31% o bobl yn hyderus eu bod yn deall y system bleidleisio newydd, ac nid oedd 17% yn ymwybodol bod y system wedi newid.
Dim ond 35% o bobl 16–17 oed a ddywedodd eu bod wedi dysgu unrhyw beth yn yr ysgol neu’r coleg cyn yr etholiad am bleidleisio, etholiadau neu sut mae democratiaeth yn gweithio.
51.7% oedd y ganran a bleidleisiodd, sef y gyfran uchaf a gofnodwyd erioed mewn unrhyw etholiad i’r Senedd a’r tro cyntaf iddi ragori ar 50%.
Mae hyder y cyhoedd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yn parhau i fod yn uchel, gyda 94% o bleidleiswyr yng Nghymru yn fodlon ar y broses bleidleisio. Roedd 86% yn hyderus bod yr etholiadau wedi cael eu cynnal yn dda.
Dywedodd 99% ei bod yn hawdd cwblhau’r papur pleidleisio ac roedd 97% yn ymwybodol bod etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal.
Ond fe welodd mwy na hanner y bobl gamwybodaeth cyn yr etholiadau. Fe welodd 12% ddeunydd deepfake, sef cynnwys digidol sydd wedi’i greu neu ei newid i ddynwared person go iawn.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: “Mae’r duedd barhaus o fodlonrwydd uchel ymhlith pleidleiswyr o ran sut mae etholiadau’n cael eu rhedeg, a’r nifer uwch a bleidleisiodd, yn arwyddion calonogol.
“Gweithiodd partneriaid ar draws Cymru, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr, heddluoedd, elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil yn agos i sicrhau bod yr etholiadau hyn yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus a bod pleidleiswyr yn deall sut i gymryd rhan.”
Ychwanegodd: “Mae pobl ifanc yn parhau i ddweud wrthym eu bod eisiau mwy o addysg ddemocrataidd yn yr ysgol er mwyn iddynt allu llywio tirwedd etholiadol sy’n newid a chymryd rhan yn effeithiol yn ein democratiaeth.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael mynediad at addysg ddemocrataidd ddiduedd o ansawdd uchel, ac yn gallu llywio camwybodaeth a thwyllwybodaeth.”
Daw data barn y cyhoedd gan YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 1,771 o oedolion, a chynhaliwyd y gwaith maes rhwng 8 Mai ac 1 Mehefin 2026.
Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Cafodd y ffigurau eu pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o’r holl oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru.