Newyddion S4C

'Creulon': Beirniadu bwrdd iechyd am beidio ail-agor ward yn Ysbyty Tywyn

Newyddion S4C

'Creulon': Beirniadu bwrdd iechyd am beidio ail-agor ward yn Ysbyty Tywyn

Mae methiant bwrdd iechyd y gogledd i recriwtio digon o staff i gynnal ward cleifion mewnol yn Ysbyty Tywyn yn cael effaith "creulon" ac "anfoesol" yn ôl teuluoedd. 

Mi gaeodd ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn yn ne Gwynedd ddwy flynedd yn ôl oherwydd diffyg staff ond er i fwrdd iechyd y gogledd ddweud y byddai'n ail agor ymhen misoedd, mae'n parhau ynghau. 

Yn ôl trigolion mae'n rhaid wynebu teithiau hir i ysbytai yn Nolgellau, Aberystwyth, Wrecsam a Bangor i ymweld a pherthnasau sâl. 

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mae recriwtio staff wedi bod yn “heriol” ond bod cyfle rŵan i ddatblygu cynllun iechyd ar gyfer yr ardal ehangach. 

Image
Canolfan Iechyd Tywyn

Yn ôl ymgyrchwyr mae'r diffyg gweithredu gan y bwrdd iechyd yn ergyd enfawr a realiti y diffyg staff i weld ym mhrofiad Sian Lewis o’r ardal.  

Bu farw ei thad lai na thair wythnos yn ôl. 

Gyda Ward Dyfi ynghau bu'n rhaid i Sian a'i theulu deithio i Ysbyty Bronglais, yna i Ysbyty Gwynedd ac yna i Ysbyty Dolgellau er mwyn iddo dderbyn gofal diwedd oes.  

"Ma di bod yn ofnadwy," meddai Ms Lewis. 

"Doedd o ddim yn gallu dod yn ôl i Dywyn o gwbl, doed na’m byd yma iddo o ran gofal o gwbl". 

"Mae wir di bod yn ofnadwy". 

"Doedd fy mam sy'n 91, doedd na'm modd i hi ei weld o, roedd yn rhaid iddi ddibynnu arno ni a'i ffrindiau i fynd a hi yno". 

"Mae di bod yn gyfnod annifyr ac drawmatig i bawb". 

"Dwi'n rili trist, ac yn flin". 

Image
Lisa Markham a Sian Lewis
Lisa Markham a Sian Lewis

Mae profiad Sian Lewis a'i theulu i'r gwrthwyneb yn llwyr ag un ei chyfaill Lisa Markham a gollodd ei thad 6 mlynedd yn ôl tra roedd y ward dal ar agor. 

"Mi oedd y gofal gath dad [yn ward Dyfi] yn anhygoel," meddai.

"Ond mae hyn rŵan... mae'n effeithio teuluoedd, y gymdogaeth, Bro Dysynni ac mae mor drist". 

"Dwi'n edrych nol gyda diolchgarwch, gafodd taid gofal anhygoel, Nain ym 1988 ac yna dad dim ond 2017 gafodd o wythnosau hyfryd yma a gofal anhygoel. 

"Roedd ei blant, ei wyrion wyresau yn gallu dod ac oedd o’n amser anhygoel iddo fo i gael ffarwelio efo ni ac inni gael ffarwelio efo fo. 

"Mae'n neud chi'n grac i weld be aeth dad Sian drwodd, a'r boen rhoi i'r teulu i beidio gallu bod yna efo teulu agos." 

Image
Janet Maher
Janet Maher

Gyda ward Dyfi dal ynghau mae'n golygu nad yw cleifion yn aros dros nos yno bellach, a dim ond apwyntiadau dydd fydd ar gael o'r ysbyty.

Mae Janet Maher yn byw gerllaw'r ysbyty a bu farw ei thad hi yno dim ond chwe mis cyn i'r ward gau yn 2023. 

Ond cyn hynny bu'n derbyn gofal yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. 

"Roedd teithio nol a mlaen o fanno yn hunlle inni, hunllef"

"Ar ôl pythefnos yno gath o ddod nol i ward Dyfi lle gafodd o'r gofal mwyaf caredig welish i yn fy mywyd". 

"A'r cariad ddangosodd nhw i'n nhad, mi farwodd ar ôl pythefnos ond 'da ni mor ddiolchgar i bawb wnaeth ofalu amdano". 

Ond dweud ma Janet nad yw hynny'n realiti i deuluoedd bellach gyda'r ward ynghau. 

"Mae gan bawb yr hawl i gael be gafo ni fel teulu"

"Mae pobl yn gorfod teithio mor bell, mae o'n greulon ac yn anfoesol". 

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod pellter Tywyn o'r brif ysbytai yn ogystal a thrafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy yn arwain at sefyllfa hunllefus. 

Image
Dyfed Edwards
Dyfed Edwards

Wrth siarad a Newyddion S4C mi wnaeth Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards gydnabod yr heriau sylweddol wrth recriwtio staff. 

“Da ni’n gorfod cydymffurfio efo materion diogelwch, ‘da ni wedi cynnal proses recriwtio i’r ward yna ac yn anffodus wedi methu i’r niferoedd sydd eu hangen i’w gynnal 24/7”. 

“Ond yn yr un pryd be ‘da ni wedi ‘neud ydi defnyddio yr argyfwng yna i gael trafodaeth ehangach ynglŷn a be ydi anghenion y gymuned a’r ysbyty gyfan at y dyfodol a be ydi’r cyfleoedd o ran darpariaeth ehangach”. 

Yn ôl Mr Edwards mae cynllun “Tuag Adref” rŵan yn cefnogi pobl dderbyn gofal adref ac uned man anafiadau bellach ar agor 5 diwrnod yr wythnos yn Ysbyty Tywyn. 

Ychwanegodd nad oedd bwriad gan y bwrdd iechyd i gau y ward yn gyfan gwbl a’r bwriad rŵan ydi cynnal trafodaeth gyda’r gymuned i ddatblygu strategaeth iechyd at y dyfodol. 

Galw mae’r Aelod o’r Senedd lleol dros Dwyfor Meirionydd, Mabon ap Gwynfor ac ail agor y ward. 

“Mae angen gwlâu yn gymuned”

“Oes ma angen trafodaeth ac astudiaeth ond mae’n rhaid gwrando ac ymateb i anghenion y gymuned”.

“Mae Bro Dysynni yn un o’r ardaloedd hyfrytaf yng Nghymru ond mae’n rhaid ichi deithio i Fro Dysynni nid drwy'r ardal felly mae pobl yn teimlo bod nhw’n cael eu gadael allan o bob dim, does dim trafnidiaeth gyhoeddus hawdd, bancio hawdd neu gwasanaethau cymdeithasol hawdd felly mae’n rhaid inni weld yr awdurdodau yn sicrhau bod pobl yr ardal yn cael budd a buddsoddiad angenrheidiol”. 

Yn ôl Bwrdd iechyd y gogledd y bwriad ydi dechrau trafoda dyfodol iechyd yn yr ardal yn dilyn cyfarfod bwrdd ym mis Mai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.