Cyhoeddi enwau tad a mab o Gaerffili a fu farw ar ôl boddi yn Awstralia
Mae enwau tad a mab o Gaerffili a fu farw ar ôl boddi ger y Great Barrier Reef yn Awstralia wedi cael eu cyhoeddi.
Fe aeth Robin Reed, 46, a'i fab, Owen, 17, i fewn i'r dŵr yn nhref Seventeen Seventy yn nhalaith Queensland ar 13 Ebrill.
Nid oedd achubwyr bywyd yn bresennol yn yr ardal.
Cafodd y ddau eu tynnu o'r môr gan hofrennydd heddlu ac fe gafodd dyn o Awstralia ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w ben.
Dywedodd Llys y Crwner yn Queensland wrth y BBC fod y ddwy farwolaeth wedi cael eu hadrodd i'r llys a bod ymchwiliadau y crwner newydd ddechrau.
Mewn teyrnged i'r tad a'r mab ar Facebook, dywedodd clwb pêl-droed Treowen Stars ger Trecelyn yng Nghaerffili: "Newyddion ofnadwy... Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Robin ac Owen.
"Roedd Robin yn ffrind da i nifer yma yn Nhreowen ac fe fydd pawb yn ei golli."