Newyddion S4C

‘Siomedig’ nad yw’r llywodraeth yn gwybod faint o gyn-weithwyr Tata sydd wedi cael cymorth i ail-hyfforddi

Liz Saville Roberts / Tata Steel

Does dim gwybodaeth ar gael ynglyn a faint o gyn-weithwyr dur Port Talbot sydd wedi gael cymorth o gronfa gafodd ei sefydlu i helpu nhw ail-hyfforddi, yn ol Plaid Cymru.

Dywedodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru, nad oedd dwy adran o Lywodraeth San Steffan yn gwybod faint o staff oedd wedi cael mynediad at gronfa a gafodd ei sefydlu i helpu 2,500 o weithwyr gafodd eu diswyddo’r llynedd.

Cafodd dwy ffwrnais chwyth olaf y ffatri eu cau’r llynedd oherwydd honiadau eu bod yn colli arian - un ym mis Gorffennaf ac un arall ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Medi.

Dywedodd yr adrannau hefyd nad oedd ganddyn nhw unrhyw wybodaeth am faint o grantiau o'r Gronfa Hyblyg Cyflogaeth a Sgiliau a gafodd eu rhannu, nac os oedd unrhyw ddarparwyr hyfforddiant wedi derbyn arian ganddi.

Mewn ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) gan Blaid Cymru, dywedodd Swyddfa Cymru a’r Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, nad oedd ganddyn nhw unrhyw wybodaeth.

'Siomedig'

Dywedodd Liz Saville Roberts bod cyn-weithwyr dur ym Mhort Talbot yn “siomedig wrth i’r Llywodraeth hon ystyried bod eu bywoliaeth yn werth llai na’r rhai yn Scunthorpe.”

“Mae Rhyddid Gwybodaeth yn datgelu nad yw Llywodraeth y DU yn gwybod sut mae ei chyllid ar gyfer ailsgilio gweithwyr yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio, na hyd yn oed faint o bobl sy’n cael eu hail-hyfforddi,” meddai.

Caeodd Tata y ffwrneisi chwyth, gyda'r cwmni'n adrodd eu bod yn colli £1m bob diwrnod.

Bydd Tata yn adeiladu ffwrnais arc trydan gwerth £1.25 biliwn ar y safle, a fydd yn caniatáu i ddur gael ei gynhyrchu gyda llai o allyriadau carbon deuocsid.

Rhoddodd Cyngor Castell-Nedd Port Talbot ganiatâd cynllunio i'r ffwrnais arc trydan ym mis Chwefror, ac mae disgwyl iddo fod yn weithredol erbyn dechrau 2028.

'Mater pwysig iawn'

Wrth ymateb i gwestiwn Ms Saville-Roberts yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd y Prif Weinidog Keir Starmer  ei bod hi wedi  “codi mater pwysig iawn mewn perthynas â Phort Talbot”.

Ychwanegodd ei fod wedi ymweld â’r gweithwyr “nifer o weithiau a chlywed yn uniongyrchol gan y gweithlu yno”.

“Hoffwn ei hatgoffa bod y prif weinidog ar y pryd wedi gwrthod codi ffôn a galw ar brif weinidog Cymru i hyd yn oed drafod y mater.”

“Roedd gen i agwedd gwahanol, oherwydd sylweddolais pa mor bwysig ydoedd”.

'Di-glem'

“Mae ymateb y Prif Weinidog yn dangos bod ei Lywodraeth yn ddi-glem ynglŷn â’r cymorth ailsgilio sydd ei angen ar gyn-weithwyr dur ym Mhort Talbot,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae pobl yn haeddu eglurder am y dyfodol, nid disgrifiad annelwig o’r gorffennol.”

“Unwaith eto, mae’n amlwg bod Llafur yn trin bywoliaethau yn ne Cymru fel rhai gwariadwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.