Dyn wedi lladd ei hun ar ôl gwneud ystumiau hiliol mewn gêm bêl-droed
Lladdodd cefnogwr pêl-droed ei hun ychydig oriau wedi iddo gael ei weld yn gwneud ystumiau hiliol yn ystod gêm.
Clywodd cwest na allai Andrew Hewitt o Fflint "wynebu'r embaras" wedi i luniau o'i ymddygiad gael eu dangos ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd ei frawd Alan wrth y cwest yn Rhuthun ei fod yn poeni y byddai'n gael ei wahardd neu ei yrru i garchar.
Roedd Mr Hewitt, oedd yn cefnogi clwb Caer, wedi mynd gyda'i fab i'w gwylio'n chwarae oddi cartref yn erbyn Warrington Town.
Wedi i'r tîm cartref sgorio, cafodd Mr Hewitt ei weld yn gwneud ystumiau fel mwnci tuag at Bohan Dixon, un o chwaraewyr Warrington.
Cafodd ei ymddygiad ei gondemnio gan glwb Caer yn syth wedi'r gêm.
Cafodd corff Andrew Hewitt ei ddarganfod yn ei gartref y diwrnod canlynol. Roedd wedi crogi ei hun, gan adael nodyn yn ymddiheuro.
Wedi ei farwolaeth, cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi bwriadu siarad gyda Mr Hewitt am ei ymddygiad yn ystod y gêm.
Dywedodd ei frawd fod ymddygiad Mr Hewitt y diwrnod hwnnw "yn gwbl groes i'w gymeriad."
Cofnododd y crwner reithfarn o hunanladdiad, gan fynegi ei gydymdeimlad a'r teulu