Newyddion S4C

Lleisiau Kyiv: ‘Mae fy nhad yn rhyfela - mae hyn yn anghredadwy yn Ewrop, yn 2022'

26/02/2022

Lleisiau Kyiv: ‘Mae fy nhad yn rhyfela - mae hyn yn anghredadwy yn Ewrop, yn 2022'

Mae dau berson ifanc sy’n byw ym mhrifddinas Wcráin wedi rhannu eu profiadau o fyw yno yn ystod ymosodiad Rwsia gyda Newyddion S4C.

Mae Anastasia yn 22 oed ac yn wreiddiol o dref fach Kaniv yng nghanol Wcráin.

Ers rhyw bum mlynedd bellach, mae’r fyfyrwraig wedi bod yn byw ym mhrifddinas y wlad.

Yn ystod y diwrnodau diwethaf, mae synau’r seiren wedi golygu bod Anastasia wedi gorfod symud i gysgodfa ar sawl achlysur.

“Bob tro dwi’n clywed y seiren, rwy’n mynd i’r gysgodfa fomiau", meddai.

"Fel arfer yn y bore, rhwng tua 06:00 a 12:00 mae’n digwydd tua pedair gwaith. Felly unwaith yr awr, chi’n clywed y seiren ac rydych chi’n mynd i’r gysgodfa bomiau.

“Wrth gwrs, rwy’n gallu clywed y bomiau hefyd ac rwy’n teimlo’r don yma o sŵn.”

Yn ystod ei chyfweliad gyda Newyddion S4C, fe wnaeth Anastasia feddwl iddi glywed seiren yn galw pobl i gysgodi unwaith eto.

“Nid wyf yn gwybod am ba hyd byddaf yn profi hyn wedi’r rhyfel oherwydd chi’n gweld ac yn clywed sŵn, ac rydych yn ceisio clywed os mai seiren yw e neu beidio.”

Image
Denys
Mae Denys, 24 oed, yn byw yn Kyiv ond yn wreiddiol o orllewin Wcráin.

‘Gwarchod ein gwlad’

Mae Denys, ffrind i Anasatasia yn 24 oed ac yn byw yn Kyiv gyda’i frawd.

Mae Denys yn wreiddiol o Kolomya yn rhanbarth Ivano-Frankivsk yng ngorllewin Wcráin ac mae ei deulu yn dal i fyw yno.

Tra bod ei ardal enedigol yn fwy diogel na sawl rhan arall o’r wlad, mae Denys yn bwriadu aros yn Kyiv.

Dywedodd Denys wrth Newyddion s4c fod gan bobl Wcráin un amcan – “i warchod ein gwlad”.

Mae’n dweud ei fod o hyd wedi ystyried Wcráin yn wlad annibynnol.

“Dwi wedi teimlo’r holl amser fod Wcráin yn annibynnol. Dwi o orllewin Wcráin ac yn gyffredinol yng ngorllewin Wcráin, rydym yn aros yn fwy traddodiadol ac rwy’n parchu diwylliant Wcráin,” meddai. 

“Rwy’n ceisio rhannu gydag eraill i ddweud fy mod i o Wcráin ac rwyf yn falch o hynny”.

Image
Anastasia
Mae Anastasia, 22 oed, yn fyfyrwraig yn Kyiv.

‘Mae hyn yn wallgof’

Mae tadau Denys ac Anastasia wedi ymuno â byddin Wcráin yn ystod y dyddiau diwethaf.

Fe ymunodd tad Anastasia gyda'r gatrawd amddiffyn ddydd Gwener.

Dyw'r ddau ddim yn gallu credu bod y fath sefyllfa'n bodoli.

Dywedodd Anastasia wrth Newyddion S4C: “Mae hyn yn wallgof, roeddwn i’n meddwl na fyddai hyn byth yn digwydd i fi gan fy mod wedi clywed straeon am yr Ail Ryfel Byd ac roedd Wcráin hefyd wedi ei heffeithio.

“Roeddwn wedi clywed straeon am dad-cu rhywun oedd yn ymladd ar ran yr Undeb Sofietaidd a nawr, ni allaf gredu fod hyn yn digwydd eto, ni allaf gredu fod hyn yn gallu digwydd yn yr unfed ganrif ar hugain,” meddai.

“Yn 2022, mae dweud fod fy nhad yn rhyfela yn Ewrop yn anghredadwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.