Cyflenwad dŵr yn 'ail lenwi'n raddol' yn Sir y Fflint
Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod pibell ddŵr, sydd wedi gadael miloedd o bobl heb gyflenwad yn Sir y Fflint, bellach wedi ei thrwsio, a bod y cyflenwad dŵr yn ail lenwi.
Ond mae'r cwmni'n rhybuddio y gallai rhai cartrefi fod heb gyflenwad tan brynhawn Sul.
Mae’r trafferthion wedi codi ar ôl i bibell ddŵr fyrstio ym Mrychdyn, yn dilyn gwaith atgyweirio dros dro ddydd Sadwrn diwethaf.
Mewn datganiad brynhawn Sadwrn, dywedodd Dŵr Cymru: "Bydd y gwaith o ail-lenwi y rhwydwaith eang o dros 500km o hyd yn cymryd amser gan fod angen i ni osgoi achosi unrhyw fyrsts pellach.
"Rydym yn rhagweld y bydd cyflenwadau dŵr rhai cwsmeriaid yn dychwelyd y prynhawn yma a heno, gyda’r gweddill brynhawn Sul."
Mae’r problemau wedi effeithio ar ardaloedd sy'n cynnwys: Y Fflint, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llannerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.
Bydd gorsafoedd dŵr potel yn parhau ar agor ym Mhafiliwn Jade Jones, Y Fflint, maes parcio a theithio Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a maes parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.
Ychwanegodd Dŵr Cymru byddan nhw'n parhau i gefnogi eu cwsmeriaid bregus ar y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth yn uniongyrchol.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer cyflenwadau cyn gynted â phosibl ac ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achoswyd gennym," meddai'r datganiad.
Bydd cwsmeriaid domestig yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael taliad awtomatig o £75 am bob 12 awr, a byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm.