Cyhuddo dau arall o geisio llofruddio ym Merthyr

Llys Ynadon Merthyr

Mae dau ddyn arall wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio yn rhan o ymchwiliad i ddigwyddiad ym Merthyr Tudful yn ystod oriau mân fore Sul diwethaf. 

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal y Gurnos tua 01.05 ar 10 Awst, wedi adroddiadau bod dyn wedi ei anafu.

Ymddangosodd Garyn Palmer, 19 oed a Jack Mew, 18 oed, y ddau o Willow Road, Merthyr yn Llys Ynadon y dref fore Sadwrn. 
 
Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa.
 
Mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 10 Medi, ynghyd â Rhys Mew, 25 oed, o Willow Road yn y dref. Roedd e eisoes wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.
 
Mae dyn 26 oed a dynes 42 oed a gafodd eu harestio yn rhan o'r ymchwiliad bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.