Mari Grug yn arwain taith dractorau ar ddiwrnod cyhoeddi rhaglen ddogfen newydd

Mari Grug

Bydd rhaglen dogfen newydd yn cael ei darlledu yn dilyn taith y cyflwynydd Mari Grug wedi ei diagnosis o ganser. 

Fe fydd Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro yn cael ei darlledu ar S4C ar 26 Hydref 21.00, a hynny yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.

Daw’r cyhoeddiad gan S4C wedi i’r cyflwynydd cymryd rhan mewn taith dractor elusennol yng Nghrymych ddydd Sadwrn i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru. 

Ers iddi gael ei diagnosis yn 2023 mae Mari, sy’n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel un o gyflwynwyr Prynhawn Da a Heno, wedi dod yn llysgennad yr elusen. 

Gan yrru tractor pinc, lliw sy’n gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth o ganser y fron, fe wnaeth hi arwain y cerbydau am ran o’r daith o gwmpas ei bro enedigol yn ardaloedd Crymych, Mynachlog-ddu a Maenclochog, Sir Benfro.

Ac mae’n dweud bod y profiad wedi bod yn “sbeshal iawn iddi.” 

“Mae cael bod yn rhan o daith dractor yn fy milltir sgwâr gyda’r gymuned wledig sydd wedi bod yn gymaint o gefn i fi a’r teulu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn sbeshal iawn," meddai.

Cafodd y taith ei threfnu gan ddyn busnes lleol Shon Rees, a dywedodd ei fod yn “browd iawn” i fod yn rhan o’r “diwrnod arbennig yma gyda Mari.” 

Image
Mari Grug

'Diolchgar'

Dywedodd Mari ei bod yn ddiolchgar am “yr holl ofal” mae wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd diwethaf. 

Mae’n gobeithio y bydd ei rhaglen ddogfen yn dangos “nad yw cael diagnosis o ganser metastatic yn golygu bod rhaid i fywyd stopio a newid yn gyfan gwbwl.” 

Dywedodd ei bod hefyd yn obeithiol y byddai’r rhaglen yn hybu unigolion i drafod eu hanes meddygol gyda’u meddyg teulu.

“Hoffwn i weld y rhaglen yn annog pobl sydd â hanes o ganser yn y teulu i gael sgwrs am eu hopsiynau er mwyn atal y clefyd rhag effeithio a niweidio yn bellach,” meddai. 

Dywedodd Iwan Rhys Roberts o Ymchwil Canser Cymru ei bod hi’n “anrhydedd mawr” i’r elusen gael Mari fel llysgennad.

“Mae cyfraniad Mari i’n gwaith trwy godi proffil yr angen i ymestyn ffiniau ymchwil canser yma yng Nghymru yn amhrisiadwy.

“Yn ogystal, mae ei hangerdd tuag at Ymchwil Canser Cymru, ei hegni, ei charedigrwydd a’i pharodrwydd i’n helpu – boed hynny trwy siarad yn gyhoeddus ac yn agored am ei siwrnai gyda chanser neu yrru tractor pinc trwy ei bro genedigol, yn anhygoel.

“Mae ymdrechion diddiwedd Mari – sydd yn fam a gwraig ifanc gyda swydd brysur, wrth iddi hi wynebu un o heriau mwyaf ei bywyd – heb amheuaeth wedi ysbrydoli a dylanwadau yn bositif ar gannoedd o bobl, a hoffwn ddiolch yn fawr iddi hi am gefnogi Ymchwil Canser Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.