Arestio dyn ar ôl honiadau o hiliaeth mewn gêm bêl-droed yn Anfield
Mae dyn wedi ei arestio ar ôl adroddiadau bod un o chwaraewyr Bournemouth wedi ei gamdrin yn hiliol yn ystod gêm gyntaf Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn yn erbyn Lerpwl yn Anfield nos Wener.
Cyhoedoddd Heddlu Glannau Mersi fod dyn 47 oed o Lerpwl wedi ei arestio yn gynharach ddydd Sadwrn a'i fod wedi ei gludo i'r ddalfa er mwyn iddo gael ei holi.
Mae'r ymosodwr Antoine Semenyo yn dweud iddo ddioddef hiliaeth gan rywun yn y dorf, a phenderfynodd y dyfarnwr Anthony Taylor roi'r gorau i'r chwarae am gyfnod wedi 29 munud o chwarae.
Siaradodd â'r rheolwyr Arne Slot ac Andoni Iraola, cyn i'r capteiniaid Virgil van Dijk ac Adam Smith gael eu galw i drafod ymhellach.
Cafodd neges gwrth hiliaeth ei darllen i'r dorf yn Anfield, a'r gred yw fod plismyn wedi mynd i ystafell y dyfarnwr yn ystod hanner amser.
Cafodd dyn 47 oed ei hebrwng o stadiwm Anfield.
Dywedodd y Prif Arolygydd Kev Chatterton: “Dyw Heddlu Glannau Mersi ddim yn goddef unrhyw drosedd gasineb.
“Rydym yn cymryd digwyddiadau o'r fath o ddifri', a gydag achosion fel y rhain, rydym yn ystyried gorchmynion yn gwahardd unigolion o gaeau pêl-droed.”
Ychwanegodd “Does dim lle i hiliaeth ac mae'n hanfodol bwysig fod unrhyw un sy'n dyst i ymddygiad o'r fath yn cysylltu â stiwardiaid mewn meysydd pêl-droed neu'r heddlu ar unwaith, er mwyn i ni weithredu, fel y digwyddodd heno.
“Fel ym mhob gêm, rydym yn gweitho'n agos gyda chlybiau Liverpool ac Everton er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r chwaraewyr.”
Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Lerpwl: “Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl yn ymwybodol o honiadau o hiliaeth yn ystod ein gêm yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Bournemouth.
“Rydym yn beirniadu hiliaeth ac unrhyw fath o wahaniaethu - nid oes lle iddo yn ein cymdeithas na phêl-droed.
“Ni all y clwb wneud sylw pellach, am fod y digwyddiad honedig yn destun ymchwiliad yr heddlu, ac rydym yn cefnogi'r ymchwiliad hwnnw yn llawn.”
Wedi'r digwyddiad, sgoriodd Semenyo ddwywaith yn ystod yr ail hanner, ond Lerpwl oedd yn fuddugol wedi'r chwiban olaf o 4-2.
Llun: Clwb Pêl-droed Bournemouth