
Rygbi: Cynnal Cwpan y Byd yn Lloegr yn 'gyfle i dyfu' gêm y menywod ar lawr gwlad
Rygbi: Cynnal Cwpan y Byd yn Lloegr yn 'gyfle i dyfu' gêm y menywod ar lawr gwlad
Mae cynnal Cwpan Rygbi'r Byd y Menywod yn Lloegr yn rhoi "cyfle i dyfu" gêm y menywod ar lawr gwlad yng Nghymru.
Dyna farn sawl aelod o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd (CRCC) ar drothwy'r gystadleuaeth.
Ar hyn o bryd mae tua 6,500 o fenywod a merched yn chwarae rygbi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau gan Undeb Rygbi Cymru (URC).
Nod yr Undeb yw gweld 10,000 o chwaraewyr benywaidd yn chwarae erbyn 2029.
Un o aelodau blaenllaw CRCC yw Laura Satterly, sydd yn 26 oed.
Ei gobaith yw y bydd cynnal gemau dros y bont mewn dinasoedd fel Bryste a Chaerwysg yn tanio diddordeb merched yn y gamp.
"Ni’n gweld fan hyn yn barod ma' merched dan 12 a dan 14 gyda ni a ma’ hwnna’n tyfu a tyfu," meddai wrth Newyddion S4C.
"So ni’n gobeithio nawr bydd y cyffro yn neud yr un peth ar ôl Cwpan y Byd.
"Ni’n cael lot o bobl sydd heb chwarae rygbi o’r blaen, neu sy' ‘di cael blas yn ysgol a wedyn dod ‘nôl aton ni fel oedolion.
"So fi’n credu bod e mor bwysig, ni ‘di bod yn chwarae yn y Principality a rhoi llwyfan i rygbi ffor’ ‘na so mae’n llwybr wedyn, pobl yn dod mewn fan hyn, dechre dysgu mwy a ma’ ‘na pathway wedyn er mwyn datblygu."

'Hynod bwysig'
Erbyn hyn, mae gan CRCC dimau merched dan 12 a 14 oed, ac mae mwy a mwy o ferched ifanc wedi dechrau chwarae rygbi yn ôl ffigyrau gan URC.
Y llynedd roedd 2,000 o ferched rhwng 6 ac 18 oed oedd yn "newydd i rygbi" wedi dechrau chwarae.
Mae'r cynnydd hwnnw yn cael ei groesawu gan Nia Jones, prif hyfforddwraig CRCC.
"Mae cael Cwpan y Byd jyst ar groes y bont, ma' fe’n absolutely brilliant i beth y’n ni’n trial neud wrth adeiladu’r clwb o tîm y merched lan i tîm y menywod.
"Fi’n meddwl ma’ fe’n rili positif fwya’ ma’ nhw’n darlledu’r gemau ar teledu achos ma’ fe ddim dim ond yn impacto ni wedyn, ma’ fe’n cael effaith ar groes y glôb o ran cyfraniad merched mewn rygbi.
"Ma’n hynod o bwysig achos ni’n gallu hybu’r iaith Gymraeg hefyd, ond ma’ ‘da ni chwaraewyr o 20 mlwydd oed lan i 50’au le ma' nhw’n dod ‘da’i gilydd, chwarae ‘da’i gilydd, yn rhan o gymuned a’n cadw’n heini yr un pryd."

'Effaith' Euro 2025
Yn y byd pêl-droed fe wnaeth menywod Cymru chwarae yn eu prif gystadleuaeth gyntaf eleni, sef Euro 2025 yn y Swistir.
Er iddyn nhw fethu â mynd heibio rownd y grwpiau, mae eu perfformiadau wedi ysbrydoli llawer o ferched ifanc ar draws y wlad.
Un mudiad elusennol sydd yn ceisio sicrhau bod gan fenywod a merched ledled Cymru gyfleoedd cyfartal mewn chwaraeon, yw Chwaraeon Merched Cymru.
Mae Prif Weithredwr y mudiad, Yr Athro Leigh Robinson yn dweud y byddai gweld yr un effaith ag Euro 2025 yn y byd rygbi yn enfawr i'r gamp yng Nghymru.
"Dwi'n meddwl bod Cwpan y Byd yn gyfle da i ni weld lle mae rygbi menywod yng Nghymru ar hyn o bryd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Os gallwn ni dod yn agos at gael yr effaith mae pêl-droed wedi cael ar ferched ifanc, yn enwedig o ran merched ifanc yn chwarae, mae hynny mynd i fod yn bonws enfawr.
"Rydw i a phob person sydd yn cefnogi chwaraeon menywod yn croesi ei bysedd y gallai'r menywod serennu a dangos beth all cael ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth."
Fe fydd Cymru yn chwarae eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr Alban ar 23 Awst.
Yna, fe fyddan nhw'n wynebu Canada a Ffiji.