Gwrthdrawiad Wrecsam: Dyn wedi marw ac un arall wedi'i anafu'n ddifrifol

Bwlchgwyn, Wrecsam

Mae dyn wedi marw ac un arall wedi'i anafu'n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad ym mhentref Bwlchgwyn ger Wrecsam nos Wener. 

Digwyddodd ar ffordd y B5430 rhwng yr A525 a Rhydtalog toc ar ôl 7.30pm, ac yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd grŵp o bedwar o feiciau modur a cherbyd Range Rover yn y gwrthdrawiad.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw un o'r gyrwyr beic modur yn y fan a'r lle. 

Cafodd dyn arall anafiadau difrifol, ac mae e wedi ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.     

Dywedodd y Rhingyll Alun Jones:"Rwy'n anfon fy nhydymdeimlad dwysaf at y teulu ar yr adeg anodd hon 

"Rydym yn annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio neu gerdded yn yr ardal, i gysylltu â ni yn ogystal â bobl allai fod â deunydd fideo dash cam."

Cafodd y ffordd ei chau am gryn amser. 

Mae modd cysylltu â Heddlu'r Gogledd gydag unrhyw wybodaeth gan ddyfynnu'r rhif C126741.     

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.