
Mam a merch o Ben Llŷn yn cynnig sesiynau therapi ceffylau
Mam a merch o Ben Llŷn yn cynnig sesiynau therapi ceffylau
Mae mam a merch o Ben Llŷn wedi dechrau cynnig sesiynau therapi ceffylau sy'n ystyriol i drawma yn yr ardal.
Bwriad Gwenno a Louise Williams ydy cefnogi lles meddyliol oedolion a phlant sydd wedi profi trawma yn ystod eu bywydau.
Yn wahanol i therapi siarad, mae perchnogion Llesiant Llŷn yn dweud eu bod yn cefnogi unigolion drwy’r pŵer iachaol sydd gan geffylau.
"Mae fi a mam wedi dewis neud y prosiect yma i helpu cymuned ni achos 'da ni'n teimlo bod 'na angen mawr.
"Dw i'n bersonol yn gweithio efo plant, ac mae mam efo cefndir o gefnogi pobl allan yn y gymuned hefyd.
"'Da ni'n gweld bod lot o bobl angen cefnogaeth therapiwtig yn eu bywydau nhw."
'Dysgu gan y ceffyl'
Bydd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan Louise, sydd wedi cymhwyso fel therapydd ceffylau sy’n ystyriol o drawma.
"Dydi gymaint o bobl ddim yn deall be' ydi emosiynau, felly 'da ni'n dechrau efo hynny," meddai Louise, 54 oed, sydd yn gweithio i fenter gymdeithasol Cyfle.
"Wedyn efo'r programme 'da ni'n mynd i mewn efo 'chydig o reflective grooming, ac wedyn 'da ni'n symud i fewn i grounding a boundaries.
"Y rhan fwyaf ohono fo ydy dysgu sut mae'r ceffyl yn bihafio a be' mae'n ei olygu – be' mae o'n neud efo'i glustiau neu efo'i goes, neu'r ffordd mae o'n teimlo, os ydy o'n sefyll i ffwrdd, dod yn agos – ac wedyn be' yda ni'n neud ydi reflectio ar ni'n hunain mewn ffordd."
Cafodd y rhaglen ei chynllunio gyda chefnogaeth y sefydliad nid-er-elw The Way of the Horse yn Sir Lincoln.
Bydd sesiynau therapi Llesiant Llŷn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, meddai Louise.
Yn ôl Samantha o Gricieth, mae'r sesiynau therapi wedi helpu ei merch, Dana, sy'n dioddef o orbryder.

"Dw i wedi gweld gwahaniaeth enfawr yn Dana," meddai Samantha.
"Yn y gorffennol fysa hi ddim wedi mynd at bobl eraill a siarad efo nhw; heddiw mae hi wedi bod yn siarad efo nifer o bobl yma.
"Mi fysa hi fel arfer wedi bod yn sownd i mi, ond mae hi wedi bod yn mynd ar liwt ei hun, mae hi wedi bod efo'r ceffylau.
"Mae ei hyder wedi tyfu cymaint a dw i'n meddwl mai'r gorfod gosod ffiniau a bod yn gadarn efo'r ceffylau sydd wedi ei helpu hi'n fawr."
Ychwanegodd: "Mae hi'n cerdded gyda'i phen yn uwch – mae ei hyder hi wedi gwella'n aruthrol."