Digwyddiad ar y Cae Ras i ddathlu bywyd Joey Jones
Cyhoeddodd Clwb Pêl-droed Wrecsam y bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn y STōK Cae Ras ddydd Mercher i ddathlu bywyd un o hoelion wyth y clwb, Joey Jones a fu farw fis diwethaf yn 70 oed.
Ychwanegodd y clwb fod angen tocyn ar gyfer y digwyddiad am 12.30pm, ond nad oes tâl.
"Fel clwb pêl-droed, mae'r newyddion am ein cyn chwaraewr a hyfforddwr wedi torri ein calonnau.
"Hoffem wahodd ein holl gefnogwyr i ddod draw i roi teyrnged i "Mr. Wrecsam" i ddathlu ei fywyd," meddai datganiad Clwb Wrecsam.
Mae gwahoddiad wedi ei anfon at gyn glybiau eraill Joey Jones hefyd, sef Lerpwl, Chelsea a Huddersfield
Bydd gwasanaeth angladd preifat ar gyfer teulu a ffrindiau'r cyn chwaraewr a hyfforddwr yn cael ei gynnal wedi'r digwyddiad ar y Cae Ras.
Yn amddiffynnwr, chwaraeodd Jones dros 500 o gemau i glybiau Wrecsam, Chelsea, Lerpwl a Huddersfield, yn ogystal â 72 o gemau dros Gymru.
Chwaraeodd ran hollbwysig wrth i Lerpwl ennill y gynghrair a Chwpan Ewrop yn 1977, a fe oedd y Cymro cyntaf i ennill y cwpan Ewropeaidd.
Wedi iddo ymddeol o chwarae fe ymunodd â thîm hyfforddi Wrecsam, cyn cael ei benodi'n hyfforddwr am gyfnod yn 2001 wedi i Brian Flynn adael y clwb.
Camodd yn ôl o'i gyfrifoldebau gyda'r clwb yn 2017, cyn ei benodiad fel Llysgennad Tîm Ieuenctid Wrecsam ym mis Medi 2021, yn arsylwi'r timoedd ieuenctid.
Sgoriodd ei unig gôl dros Gymru mewn gêm gyfartal 4-4 yn erbyn Yugoslafia yn 1982.
Bu'n gapten dros Gymru bump o weithiau, gan gynnwys ei gêm olaf yn erbyn Canada yn 1986.