Pryder y gallai costau byw gynyddu wrth wahardd Rwsia o system ariannol ryngwladol

26/02/2022

Pryder y gallai costau byw gynyddu wrth wahardd Rwsia o system ariannol ryngwladol

Fe allai gwahardd Rwsia o system ariannol ryngwladol arwain at gynnydd mewn costau byw yng Nghymru, yn ôl un economegydd blaenllaw.

Mae’r system SWIFT yn golygu bod banciau ar draws y byd yn gallu cysylltu â’i gilydd er mwyn trosglwyddo arian o un cyfrif i’r llall.

Ond yn ôl Dr Edward Thomas Jones o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor, tra byddai atal mynediad Rwsia i SWIFT yn ergyd i Vladimir Putin, byddai sgil effeithiau ar economi gwledydd Ewrop gan gynnwys Prydain.

“Mi fysa hyn yn cael effaith ar prisiau ‘dan ni yn ei dalu am nwyddau ac egni yma yn y wlad. Yn barod ‘dan ni’n gweld prisiau yn cynyddu yma yng Nghymru,” meddai.

“Os bysa hyn y digwydd, mwy na thebyg mi fysa ni yn gweld prisiau yn cynyddu mwy. Ella mewn rhai sefyllfaoedd bysa hi ddim yn bosib inni brynu rhai pethau, ella bysa ‘na brinder o betrol.”

Image
Edward Thomas Jones
Mae Dr Edward Thomas Jones yn economegydd ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

Mae nifer o sancsiynau eisoes wedi eu cyflwyno yn erbyn Rwsia mewn ymdrech gan NATO i annog yr Arlywydd Putin i dynnu ei filwyr o Wcráin.

Ond, mae arweinwyr sawl gwlad yn galw am fesurau caletach yn erbyn Mr Putin, gan gynnwys gwahardd Rwsia rhag cael mynediad i system SWIFT.

Ddydd Gwener, beirniadodd Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd Donald Tusk rhai llywodraethau am wrthod “penderfyniadau anodd”.

Dywedodd Mr Tusk fod Yr Almaen, Hwngari a’r Eidal wedi “dwyn gwarth ar eu hunain”.

Dydd Sadwrn fe ddywedodd Gweinidog Materion Tramor Wcráin, Dmytro Kuleba, fod Ffrainc yn gefnogol i atal Rwsia rhag defnyddio SWIFT o ganlyniad i ymosodiad milwrol y wlad.

Sefydlwyd SWIFT yn 1973 ac erbyn 2014 roedd gan fwy na 200 o wledydd a thiriogaethau fynediad at y system.

Ond nid SWIFT yw’r unig system y gallai Rwsia ddefnyddio, yn ôl Dr Jones.

“Mae’n anodd iawn inni wbod be’ ma’ Tsieina’n mynd i wneud yn sgil hyn i gyd.  Mae gan Tsieina system nhw ei hunain sy’n debyg iawn i SWIFT.  

“Tydi hwnna ddim yn cael ei ddefnyddio llawer gan banciau ond mae gynnon nhw system.  

“Felly, os ma’ Rwsia’n cael ei gwahardd o system SWIFT, yna mae’n bosib byddan nhw’n troi i Tsieina a trïo dechrau defnyddio system nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.