Newyddion S4C

Wythnos o ddigwyddiadau yn Llundain i ddathlu Cymru

19/02/2022
Llundain

Bydd digwyddiadau i ddathlu Cymru yn dechrau’r penwythnos yma yn Llundain gan barhau am dros wythnos - tan 9 Mawrth.

Mae Wythnos Cymru Llundain yn cynnwys 90 o wahanol ddigwyddiadau ac yn cael ei chynnal yn flynyddol i gwmpasu a chynnwys dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Dyma’r chweched tro i’r digwyddiad gael ei gynnal ym mhrifddinas Lloegr ac mae’n cynnwys nifer o elfennau gwahanol eleni.

Y bwriad yw dathlu y gorau o'r hyn sydd gan Gymru a'i phobl i'w gynnig a thynnu sylw pobl at ystod eang o feysydd yn amrywio o fwyd a diod i gerddoriaeth, ffilm, chwaraeon, ac adloniant medd y trefnwyr.

Mae disgwyl y bydd nifer o Gymry amlwg yn cefnogi’r rhaglen o weithgareddau gyda’r bwriad o arddangos rhinweddau Cymru i'r byd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.