I'm a Celebrity: Ant a Dec yn disgwyl dychwelyd i Awstralia eleni
Mae Ant a Dec wedi dweud eu bod yn disgwyl y bydd I'm a Celebrity...Get Me Out Of Here! yn dychwelyd i Awstralia eleni.
Castell Gwrych yn Abergele sydd wedi bod yn gartref i'r gyfres ers dwy flynedd yn ystod y pandemig, ond mae'r ddau gyflwynydd yn obeithiol y byddan nhw yn dychwelyd i'r jwngl eleni.
Fe ymddangosodd y ddau ar soffa'r One Show ar BBC One nos Iau ac fe ofynnwyd iddynt gan Alex Jones beth oedd y cynllun ar gyfer y gyfres eleni, gydag Awstralia i ail-agor ei ffiniau o ddydd Llun ar gyfer teithwyr rhyngwladol.
Dywedodd Ant: "Y cynllun yw'r jwngl".
"Dim byd yn erbyn Cymru", ychwanegodd Dec.
"Ni'n caru Cymru ond Awstralia yw cartref [y gyfres]. Bydden ni'n hoffi mynd yn ôl yna, os allwn ni", meddai Ant.
"Gewch chi tan gwell yn New South Wales na chewch chi yng Nghymru", ychwanegodd gan chwerthin.
Mae disgwyl cadarnhad swyddogol am leoliad y gyfres nesaf o I'm a Celebrity yn ddiweddarach eleni.