Newyddion S4C

Blaenau Ffestiniog: Sefyllfa Airbnb ‘tu hwnt i reolaeth’

Newyddion S4C 16/02/2022

Blaenau Ffestiniog: Sefyllfa Airbnb ‘tu hwnt i reolaeth’

Blaenau Ffestiniog yw’r un o’r llefydd fwyaf poblogaidd ym Mhrydain ar gyfer llety Airbnb yn ôl arolwg diweddar.

Ond mae rhai yn y gymuned yn pryderu bod y sefyllfa wedi mynd “tu hwnt i reolaeth” gan nad oes tai ar gael i bobl leol.

Mae Cwmni Cymunedau Bro Ffestiniog yn prynu eiddo sydd ar werth er mwyn ei roi nôl i bobl leol.

Dywedodd Ceri Cunnington sy’n gweithio i Gwmni Cymunedau Bro Ffestiniog: “Mae’r ffaith bod 'na dai yn cael ei phrynu a throi mewn i Airbnb yn profi’n broblem, sydd yn cau pobl leol allan o’r farchnad dai.

“Ond ma’r cysyniad Airbnb, sef stafell sbâr yn dy dŷ i rannu i rai sydd isho ymweld â dy ardal yn grêt ond fel ma’r farchnad a chyfalafiaeth a bob dim yn profi mae o yn mynd tu hwnt i reolaeth wan.

“Da ni wedi prynu eiddo ar y stryd fawr wan, ond be da ni angen ydi adnoddau er mwyn i gymunedau gael gwireddu syniadau a photensial sydd o fewn cymunedau.”

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Airbnb: "Mae llawer o bobl sy’n cynnig llety yn y cartref yn byw ei cartrefi eu hunain hefyd a llawer o bobl wir angen yr arian."

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dyblu treth y cyngor ar ail gartrefi

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.