Newyddion S4C

Mark Williams ar ei hôl hi yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

05/05/2025
Mark Williams yn wynebu Zhao Xintong o Tsieina

Yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd, mae'r Cymro Mark Williams ar ei hôl hi yn erbyn Zhao Xintong o Tsieina wedi diwrnod cynta'r ornest ddydd Sul. 

Ar hyn o bryd mae Xintong, sy'n chwaraewr amatur yn y bencampwriaeth ac wedi dod trwy bedair rownd ragbrofol i ennill ei le, ar y blaen o 17-8.

Llwyddodd y chwaraewr 28 oed i reoli'r gêm yn llwyr yn y sesiwn gyntaf yn y Crucible ddydd Sul, gan ei roi ar y blaen o 7-1.

Ond erbyn diwedd yr ail sesiwn ddydd Sul roedd Williams wedi llwyddo i gipio pump o'r naw ffrâm.

Wedi'r sesiwn brynhawn Llun, fe enillodd Xintong chwe ffram, gan olygu mai dim ond un ffrâm y mae ei hangen er mwyn cipio'r teitl.

Xintong fyddai'r person cyntaf o Tsieina i ennill y benampwriaeth.

Bydd y chwarae yn ail-ddechrau am 19:00 ddydd Llun.

Hon yw'r rownd derfynol gyntaf erioed ym Mhencamwpwriaeth Snwcer y Byd gyda'r ddau chwaraewr yn llaw chwith. 

Mark Williams yw'r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd wedi iddo drechu rhif un y byd Judd Trump o 17-14 ffram nos Sadwrn.     

Dathlodd y Cymro 50 oed o bentref Cwm ger Glyn Ebwy ei ben-blwydd yn 50 oed fis Mawrth. 

Cymro arall, y diweddar Ray Reardon oedd yn dal y record cyn nos Sadwrn. Yn enillydd y bencampwriaeth chwe gwaith, roedd e'n 49 oed pan ymddangosodd yn y rownd derfynol yn 1982. 

"Methu coelio"   

Wrth gael ei gyfweld gan y BBC wedi'r fuddugoliaeth yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Judd Trump nos Sadwrn, dywedodd Mark Williams ei fod fymryn yn nerfus tua diwedd y gêm. 

"Fe wnes i bron â methu'r belen ddu yn y ffram olaf - ro'n i'n teimlo 'chydig o densiwn ar y fraich chwith," meddai. 

"Dydw i ddim yn arfer teimlo'n nerfus ar unrhyw adeg, ond mi ro'n ni yn y ffram honno.

"'Dw i methu coelio mod i mewn ffeinal arall."

Cyfaddefodd hefyd fod ei olwg yn peri problemau iddo, a'i fod wedi arbrofi gyda mathau gwahanol o sbectol a lensys cyffwrdd. Ond penderfynodd fynd amdani heb ddefnyddio sbectol na lensys ar gyfer y bencampwriaeth hon.  

Wrth gyfeirio at ei wrthwynebydd 28 oed sydd yn ei herio yn y rownd derfynol, dywedodd y Cymro: "Dydw i ddim yn gwybod be sy' ar ôl yn y tanc. 'Dw i'n cofio chwarae yn ei erbyn e pan roedd e'n 11 neu 12 oed a nath e fy nghuro i, a wedes i bryd hynny wrth bobl, bod e'n mynd i fod yn chwaraewr da. 

"Bydde hi'n dda i'r gamp, pe bai chwaraewr o Tsieina yn ennill y bencampwriaeth... ond dim cweit eto!" 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.