
Galw ar bobl i wirio symptomau'r galon ar ôl i'r Gwasanaeth Iechyd 'achub bywyd' seren Y Llais
Galw ar bobl i wirio symptomau'r galon ar ôl i'r Gwasanaeth Iechyd 'achub bywyd' seren Y Llais
Mae un o sêr cyfres Y Llais eleni wedi galw ar bobl i wirio symptomau eu calon ar ôl i'r Gwasanaeth Iechyd "achub" ei fywyd.
Cafodd Gary Ryland, neu Ragsy o Aberdâr lawdriniaeth ar ei galon ym mis Mawrth eleni.
Roedd y canwr 46 oed wedi cael diagnosis o glefyd y galon etifeddol (hereditary heart disease) yn 2023.
Mae 340,000 o bobl yn byw gyda chlefydau ar y galon yng Nghymru yn ôl British Heart Foundation Cymru.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Ragsy, sydd yn gweithio fel hyfforddwr ysgrifennu caneuon, ei fod wedi sylwi ar symptomau pan oedd allan o wynt wrth gerdded o faes parcio i dderbynfa ysgol.
"Roeddwn i'n mynd i un o'r ysgolion roeddwn i'n gweithio ynddi ym mis Ionawr 2023," meddai.
"Fe wnes i barcio a hôl fy ngitâr a fy mag fel arfer, ac wrth gerdded ar draws y fflat i'r dderbynfa roeddwn i wedi teimlo fy mrest yn tynhau'n sydyn.
"Roeddwn i wedi sylweddoli ar hyn am tua tair wythnos, ac roeddwn i'n gwybod wedyn... dyw hwn ddim yn iawn a dyw hwn ddim yn mynd i ffwrdd.
"Mae hwn yn rhywbeth difrifol."
'Methu stopio crio'
Fe aeth Ragsy i weld ei feddyg ychydig wythnosau wedi iddo brofi'r symptomau, a rhoddodd asbirin iddo tra ei fod yn aros am brofion.
Ym mis Medi 2023, dywedodd meddygon yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful fod ganddo glefyd y galon etifeddol.
"Roedd un o fy rhydwelïau wedi blocio, a'r llall yn mynd yn gul," meddai.
"Dywedodd y doctor 'does dim ffordd hawdd i ddweud hwn, ond mae gen ti glefyd ar y galon, clefyd y galon etifeddol'.
"Roeddwn i methu stopio crio. Ac roeddwn i'n dweud wrth y doctor, ‘mae dau o blant gyda fi, fi mo'yn bod yn rhan o'u bywyd nhw.’"

'Achub fy mywyd'
Ar 28 Mawrth fe aeth Gary Ryland i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar gyfer llawdriniaeth agored ar ei galon.
Cyn mynd am y llawdriniaeth recordiodd fideo i'w blant ac fe ddechreuodd grio wrth siarad gyda nyrs a phorthor yn yr ysbyty.
Dywedodd bod holl staff y Gwasanaeth Iechyd oedd wedi ei helpu trwy'r llawdriniaeth yn "magical superheroes."
"Dwyt ti ddim yn gwybod os wyt ti mynd i godi eto. Ti'n rhoi dy fywyd mewn dwylo rhywun arall.
"Maen nhw mynd i agor dy gorff a gweithio ar un o'r pethau mwyaf hanfodol sydd yn dy gadw di'n fyw.
"Mae’r NHS wedi achub bywyd fi. Roedd y staff yn yr ysbyty yn grêt.
"Hyd yn oed y nyrsys, y porthor, y staff meddygol, maen nhw fel magical superheroes."
Wrth fyfyrio ar yr wythnosau o driniaeth a misoedd o wella, mae Ragsy yn annog pobl i wirio eu symptomau.
"Os oes unrhyw fath o deimlad 'da chi bod rhywbeth yn anghywir, plîs ewch i weld eich doctor," meddai.
"Gorau po gyntaf bod chi'n dal pethau fel hyn, achos fe allai neud gwahaniaeth mawr.
"Peidiwch oedi achos fe allai pethau fynd llawer gwaeth."