14 o blant wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wedi marwolaeth bachgen mewn tân
Mae 14 o blant wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ol iddyn nhw gael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi marwolaeth bachgen mewn tân ar safle diwydiannol.
Fe gafodd Heddlu Northumbria eu galw i barc diwydiannol Fairfield yn ardal Bill Quay yn Gateshead yng ngogledd-ddwyrain Lloegr toc wedi 20.00 nos Wener yn dilyn adroddiadau am dân.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad a chafodd y tân ei ddiffodd yn ddiweddarach, ond dywedodd yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i gorff.
Dywedodd llefarydd: "Yn anffodus, yn dilyn y chwilio, cafodd corff y credir ei fod yn Layton Carr, 14 oed, ei ddarganfod yn farw y tu mewn i’r adeilad.
"Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan swyddogion arbenigol."
Cyhoeddodd yr heddlu nos Sul fod yr 11 bachgen a thair merch rhwng 11 ac 14 oed wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ragor o ymholiadau gael eu cynnal.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Louise Jenkins o Heddlu Northumbria: "Mae hwn yn ddigwyddiad hynod o drasig lle mae bachgen wedi colli ei fywyd.
"Mae ein meddyliau gyda theulu Layton wrth iddyn nhw ddechrau ceisio prosesu'r golled
"Bydd ein swyddogion arbenigol yn parhau i’w cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallan nhw."
Bydd cordon mewn lle, ynghyd â phresenoldeb heddlu, i gynnal ymchwiliadau a "chynnig tawelwch meddwl i’r cyhoedd", meddai.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.