Y Seintiau Newydd yw pencampwyr Cwpan Cymru JD
Y Seintiau Newydd yw pencampwyr Cwpan Cymru JD ar ôl iddyn nhw guro Cei Connah o 2-1.
Mae hynny'n golygu hefyd eu bod nhw wedi ennill y trebl domestig am y tro cyntaf mewn degawd, drwy ennill y Gynghrair, Cwpan Cymru a Chwpan Nathaniel MG .
Dyma oedd yr ail flwyddyn yn olynol i'r ddau dîm wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol, gyda Chei Connah yn fuddugol y llynedd.
Mewn gêm gystadleuol, Cei Connah oedd y cyntaf i sgorio wedi chwe munud ar faes Rodney Parade yng Nghasnewydd brynhawn Sul.
Wedi chwarae medrus Rhys Hughes, llwyddodd Declan Poole i roi'r Nomadiaid ar y blaen, gan sgorio am y tro cyntaf y tymor hwn.
Wedi cic rydd ragorol gan Rory Holden, llwyddodd y Seintiau Newydd i unioni'r sgôr ddeng munud yn ddiweddarach.
Roedd hi'n gyfartal 1-1 ar yr egwyl.
Ar 57 munud o chwarae, daeth ail gôl i'r Seintiau Newydd. Wedi croesiad campus gan Danny Redmond, llwyddodd Jordan Williams i benio i'r gornel isaf.
2-1 oedd hi ar y chwiban olaf.
Yn sgil y fuddugoliaeth, mae'r Seintiau Newydd wedi codi Cwpan Cymru am y degfed tro.
Roedd nifer o glybiau’r Cymru Premier JD yn cadw llygad barcud ar y gêm brynhawn Sul, gan bod y canlyniad yn dylanwadu ar y gemau ail gyfle a’r ras i gyrraedd Ewrop.
Gyda'r Seintiau Newydd yn fuddugol yng Nghwpan Cymru JD, mae Pen-y-bont wedi sicrhau eu lle’n Ewrop gan iddyn nhw orffen yn ail yn y tabl.
Mae hynny’n golygu y bydd Caernarfon a Met Caerdydd yn cyfarfod yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, a’r enillwyr yn wynebu Hwlffordd yn y rownd derfynol am y tocyn olaf i Ewrop.