Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng beic trydan a char yn Sir Gâr
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic trydan a char yn Sir Gâr.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y gwrthdrawiad wedi digwydd am tua 20.50 nos Sadwrn ar Ffordd Llethri yn Llanelli.
Bu farw'r dyn oedd ar y beic trydan. Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd y ffordd ei chau er mwyn ymchwilio i'r digwyddiad. Fe ail agorodd am 14.00 ddydd Sul.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ar frys â gyrwyr dau feic trydan arall a oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad, yn ôl adroddiadau.
Y gred yw bod y ddau yn gwisgo gorchuddion wyneb, gydag un yn gwisgo siaced felen.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 376 o'r 3ydd.