Newyddion S4C

Adroddiad yn datgelu cwynion am 'ymddygiad amhriodol' yng Nghadeirlan Bangor

Adroddiad yn datgelu cwynion am 'ymddygiad amhriodol' yng Nghadeirlan Bangor

Mae adroddiad wedi datgelu cwynion am iaith amhriodol, camddefnydd alcohol a diwylliant lle roedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur yng Nghadeirlan Bangor.

Daw'r adroddiad wedi i'r Eglwys yng Nghymru gyhoeddi fis Chwefror eu bod yn cynnal ymchwiliad yn y gadeirlan yn dilyn pryderon diogelu "difrifol iawn".

Fe gafodd yr ymchwiliad ei gynnal gan Thirtyone:eight, sef elusen sy'n rhoi cyngor ar ddiogelu i sefydliadau eglwysig.

Dywedodd yr arolygwyr eu bod wedi holi nifer o bobl o fewn y gadeirlan ond nad oedden nhw'n ymchwilio i unigolion penodol.

Yn ôl yr adroddiad roedd "pobl yn ymddwyn yn dda ar y cyfan" ond bod cwynion am "ymddygiad amhriodol" o fewn y sefydliad.

"Er bod pobl yn ymddwyn yn dda ar y cyfan, cafodd yr adolygwyr wybod am ymddygiad amhriodol gan gynnwys iaith amhriodol, diffyg ffiniau o ran cyfathrebu (y tu allan i oriau gwaith ac i ffwrdd o adeiladau swyddfa), ac yfed gormod o alcohol," meddai'r adroddiad.

"Roedd cwynion hefyd am eraill yn y gadeirlan a oedd yn cymryd rhan mewn defnyddio iaith amhriodol o flaen aelodau iau o'r côr a bod hyn yn fwy na ‘banter’, ac ar adegau roedd hyn wedi achosi cywilydd posib i rai."

"Rhannwyd cwynion hefyd am unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu tra bod eu cydweithwyr yn cael eu ffafrio. 

"Roedd adroddiadau yn nodi diwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn niwlog.

"Ac i rai yn eu barn nhw roedd anlladrwydd (promiscuity) yn dderbyniol."

Fe aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud bod sawl unigolyn yn y gadeirlan o dan "straen" yn sgil yr "awyrgylch ansefydlog".

Er hynny, dywedodd yr adroddiad nad oedd yn ymddangos bod unrhyw fesurau diogelu ar waith i amddiffyn unigolion rhag ymddygiad "annerbyniol".

"Mae'r adolygwyr yn pryderu pe bai ymddygiad o'r fath yn cael ei arsylwi gan blant ac oedolion mewn perygl, y gallai arwain i adlewyrchu'r ymddygiadau nad ydynt yn afiach hyn wedyn a chreu amgylchedd lle mae'r teimladau o fod yn anniogel yn ymestyn o staff y gadeirlan i'r rhai y mae'n eu gwasanaethu. 

"Gallai hyn gael canlyniadau difrifol i bawb dan sylw, gan gynnwys enw da allanol y eglwys gadeiriol."

Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod y diwylliant o fewn y gadeirlan yn "heriol ond ddim wedi torri".

Mae'r arolygwyr yn argymell penodi arweinydd a dirprwy diogelu o fewn y gadeirlan er mwyn gwella diogelwch.

Maen nhw hefyd yn galw am gael gwiriadau DBS wrth recriwtio rhai aelodau o staff.

'Anodd clywed'

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor fod canfyddiadau'r adroddiad yn "anodd i'w clywed".

"Rwy'n cydnabod bod y canfyddiadau hyn yn anodd i'w clywed - ond mae'n rhaid eu hwynebu os ydym am symud ymlaen gyda didwylledd," meddai.

"Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y rhai a ddaeth ymlaen ac rwyf am anrhydeddu eu gonestrwydd a'u dewrder. 

Image
Andrew John, Archesgob Cymru

"Rydw i eisoes yn myfyrio ar yr hyn y mae'n rhaid i mi ei ddysgu o'r broses hon - nid yn unig fel arweinydd, ond fel cyd-bererin. 

"Mae'r alwad i ffurfiant gydol oes yn un yr ydym i gyd yn ei rhannu, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gerdded y llwybr hwnnw gyda gostyngeiddrwydd. 

"Byddwn yn ymrwymo i'r gwaith o atgyweirio, o ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu diwylliant iachach - gyda'n gilydd."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod canfyddiadau'r adroddiad yn "gyfle i ni newid".

"Er bod hwn wedi bod yn gyfnod sobreiddiol, mae hefyd yn cynnig cyfle i ni newid," meddai.

"Bydd yn golygu gwaith caled, ond gall hefyd ddod â iachâd, ac nid ydym yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain," meddai.


Mae bwrdd wedi ei sefydlu i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu, ac mae’r eglwys wedi gofyn i'r gwaith yma gael ei gwblhau o fewn tri mis. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.