URC: 'Ddim yn bosib' i ranbarthau Cymru ymuno ag Uwch Gynghrair Lloegr
Mae penaethiaid Undeb Rygbi Cymru wedi dweud nad yw o fewn eu gallu i sicrhau bod rhanbarthau Cymru yn ymuno ag Uwch Gynghrair Lloegr.
Cafodd penaethiaid yr undeb eu holi gan Aelodau Seneddol o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan brynhawn Mercher.
Dywedodd Cadeirydd yr URC, Richard Collier-Keywood, a’r Prif Weithredwr, Abi Tierney eu bod nhw’n deall pam bod nifer o gefnogwyr o blaid y syniad.
“Daeth hyn allan yn gryf iawn, iawn yn ystod yr ymgynghoriad [ar ddyfodol rygbi yng Nghymru],” meddai Richard Collier-Keywood.
“Ac rydyn ni’n deall yn iawn. Ond mae gyda ni gytundeb sy’n parhau â’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
“Felly rydyn ni wedi ymrwymo i’r bencampwriaeth honno - a dyna ddiwedd y peth.
“Mae gyda ni hefyd waharddiad ar chwarae mewn unrhyw gystadleuaeth arall hyd at ddiwedd 2028.
“Er mwyn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr byddai rhaid i bob un o’r 10 o berchnogion ein gwahodd ni.
“Dydyn ni ddim wedi derbyn gwahoddiad.”
Dywedodd Abi Tierney eu bod nhw serch hynny yn trafod ag undebau eraill i weld beth fyddai'r strwythur gorau i sicrhau rhagor o gemau darbi yn y dyfodol.
“Fel cefnogwr rydw i’n deall yn iawn,” meddai.
“Ond mae gyda ni bartneriaid yn y gystadleuaeth yna sydd ein hangen ni yn y gystadleuaeth, ac mae gyda ni gytundeb gyda nhw.”
'Poenus'
Fe gafodd penaethiaid URC eu holi yn ogystal am y penderfyniad i dorri nifer y rhanbarthau o dri i bedwar, proses sy'n dal i fynd yn ei flaen.
Cyhoeddodd URC ddydd Llun eu bod yn cynnal trafodaethau â pherchnogion y Gweilch i brynu rhanbarth Rygbi Caerdydd.
Yn dilyn cyfarfod bwrdd daeth yr URC i’r casgliad mai perchnogion y Gweilch, Y11, oedd eu dewis ar gyfer perchnogi Caerdydd yn hytrach na chonsortiwm oedd yn cynnwys cyn-gyfarwyddwr Caerdydd, Martyn Ryan.
Fe wnaeth yr URC gymryd rheolaeth o ranbarth y brifddinas y llynedd ar ôl i’r clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Wrth gael ei holi am fanteision ac anfanteision o symud o bedwar i dri rhanbarth, dywedodd cadeirydd yr URC, Richard Collier-Keywood, ei fod yn cydnabod bod newid yn "boenus".
"Doedden ni ddim yn gwybod pa grŵp o gefnogwyr, ond roedden ni'n gwybod y byddai'n boenus," meddai.
"Fe geision ni ddelio ag un agwedd bwysig, felly fe wnaethon ni sicrhau contractau bob chwaraewr.
"Fe aethon ni i mewn iddo gyda dau glwb gan ein bod ni'n pryderu am y diffyg crynodiad o chwaraewyr yn chwarae gyda'i gilydd.
"Gallen ni fod wedi mynd allan gyda thri chlwb hefyd. Roedd yn rhaid i ni gydbwyso rhai pethau, fel amser chwarae a bod tri chlwb yn ddrytach.
"Fe wnaethon ni ryngweithio â nifer o chwaraewyr sydd wedi ymddeol a'r rheswm pam eu bod nhw'n dweud eu bod nhw mor dda oedd academi genedlaethol, ac rydyn ni'n mynd yn ôl at hynny."
Fe aeth ymlaen i ddweud fod yr URC "bob amser yn ail i'r gêm o ran dod o hyd i dalent newydd o Gymru".
"Dylen ni fod yn ymladd am dalent yn llwyr. Bydd mecanwaith newydd i ddod o hyd i dalent," meddai.
"Mae adeiladu'r Super Rygbi Cymru yn rhan o hynny hefyd."
Wrth gael ei holi am pryd fydd penderfyniad am ddyfodol y rhanbarthau, dywedodd Abi Tierney ei bod yn "clywed eich angerdd dros y Gweilch".
"Rwy'n clywed angerdd gan yr holl gefnogwyr. Maen nhw i gyd yn bwysig ac mae ganddyn nhw hanes.
"Mae newid yn anodd. Dydy o ddim am fod yn hawdd. Y broses rydyn ni'n mynd drwyddi ar hyn o bryd yw ceisio cael caniatâd, yn hytrach na thendr a fydd yn cymryd amser. Rydyn ni yn y broses honno ar hyn o bryd."
Ychwanegidd: "Dim ond os bydd y broses honno'n methu y byddwn ni'n mynd i dendr, a fydd yn cymryd yr amser y bydd yn ei gymryd.
"Rydyn ni wedi nodi yn ein cynllun y bydd yn cymryd chwe mis."
Yn gynharach yn y gwrandawiad, cafodd y penaethiaid eu cyhuddo o beidio â deall y gêm ar lawr gwlad.
"Rwy'n clywed eich bod chi'n teimlo nad ydym ni'n cefnogi, felly mae angen i ni wella wrth gyfleu hynny," meddai Ms Tierney cyn iddi fynd ymlaen i ddweud y bydd y cynllun newydd yn gweld mwy o fuddsoddiad yn y gêm ar lawr gwlad.
Mae hi'n dweud bod yr URC wedi cynyddu'r cyllid i glybiau cymunedol o £250,000.
Pryderon
Mae pryderon ymysg cefnogwyr y Gweilch y bydd eu rhanbarth yn cael ei thraflyncu gan Gaerdydd os ydy eu perchnogion, Y11, yn cymryd rheolaeth dros ranbarth y brifddinas hefyd.
Mae ymddiriedolaeth cefnogwyr Caerdydd, CF10, hefyd wedi dweud nad ydyn nhw’n croesawu dewis Y11 fel perchnogion arnyn nhw.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran yr URC eu bod nhw wedi "cyfarfod heddiw ac ystyried yr argymhelliad gan y tîm arweinyddiaeth weithredol am werthu Rygbi Caerdydd".
"Adolygodd y bwrdd y ddau gynnig olaf yn fanwl a chymeradwyodd yn unfrydol y cynnig i symud ymlaen yn unigol gydag un cynigydd," meddai'r URC.
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae yr URC yn gobeithio cwblhau’r trafodaethau manwl gyda’r cynigydd dewisol a llofnodi cytundeb o fewn ychydig wythnosau."

